Mae Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Meddwl Cymru, sef rhwydwaith newydd sbon, wedi'i sefydlu i gryfhau ymhellach y cysylltedd rhwng ymchwil, tystiolaeth ac ymarfer clinigol.
Dywedodd yr Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a Chyd-gadeirydd Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Meddwl Cymru: “Mae llawer o ffynonellau cyfoethog o wybodaeth yn dod o bob cwr o Gymru, ond er mwyn cael yr effaith fwyaf ar ymarfer clinigol iechyd meddwl, mae angen defnyddio’r wybodaeth hon yn y ffordd gywir. Mae angen i ni hyrwyddo system ddysgu lle mae ymchwil, tystiolaeth a phrofiadau’n cael eu defnyddio’n effeithiol i lywio gwelliannau parhaus wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl.”
Yr Athro Jon Bisson yn siarad â'r cynadleddwyr yn lansiad Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Meddwl
Bydd Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Meddwl Cymru yn dwyn ynghyd gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o arbenigeddau iechyd meddwl, yn ogystal â phobl â phrofiad bywyd, i greu cymuned a all ymateb yn gyflymach i'r heriau uniongyrchol y mae GIG Cymru yn eu hwynebu, trwy gynhyrchu gwybodaeth a all ddylanwadu'n fwy effeithiol ar ymarfer. Ar ben hynny, bydd yn helpu i greu dealltwriaeth gyffredin o flaenoriaethau ymchwil ychwanegol i Gymru, o safbwynt yr holl randdeiliaid, ac fe fydd yn ysbrydoli gweithredu ar y cyd ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain.
Trafodaethau bwrdd yn lansiad Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Meddwl
Cynhaliwyd digwyddiad ym Mhrifysgol Caerdydd i nodi lansio'r Rhwydwaith. Daeth grŵp amrywiol o randdeiliaid yn cynrychioli profiad bywyd, proffesiynau iechyd meddwl a’r byd academaidd, ynghyd i drafod ble y gall y Rhwydwaith ychwanegu gwerth, arddangos prosiectau ymchwil iechyd meddwl cyfredol a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio. Cryfhaodd y digwyddiad ddealltwriaeth o’r gweithgarwch ymchwil sy'n digwydd ledled Cymru ac fe greodd gyfle i ystyried yr hyn y mae'n ei olygu ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol.
Ychwanegodd Ciara Rogers, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd Meddwl, Anabledd Dysgu a Niwroamrywiaeth: “Diolch i bawb a gyfrannodd at lansio Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Meddwl Cymru. Roedd yn wych gweld grŵp amrywiol iawn o bobl yn dod at ei gilydd gyda diddordeb cyffredin mewn harneisio pŵer ymchwil a thystiolaeth i wella ymarfer iechyd meddwl a gwneud gwahaniaeth i'n poblogaeth. Casglwyd mewnwelediadau gwych drwy gydol y dydd a fydd yn allweddol wrth lywio'r camau nesaf – rydym yn gyffrous iawn am yr angerdd a'r potensial sydd wedi'i ddangos drwy rai o'r sgyrsiau cynnar hyn.”
Mae creu Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Meddwl Cymru yn nodi carreg filltir allweddol wrth gyflawni Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant 2025-35.
Bydd Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Meddwl Cymru yn cael ei arwain gan y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yn GIG Cymru ar gyfer Perfformiad a Gwella a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.
Cysylltwch â ni yn NHSPI.SPMH@wales.nhs.uk gydag unrhyw ymholiadau neu os hoffech glywed mwy am y digwyddiadau a gynhelir yn y dyfodol.