Bydd Sally Holland, cyn Gomisiynydd Plant Cymru, yn arwain asesiad sicrwydd annibynnol o wasanaethau perinatal (mamolaeth a newyddenedigol) ar draws GIG Cymru.
Comisiynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles MS, Berfformiad a Gwella GIG Cymru i gynnal asesiad cenedlaethol. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y byddai'n cael ei gadeirio'n annibynnol.
Bydd yr Athro Holland yn arwain panel goruchwylio annibynnol, sy'n arbenigwyr cenedlaethol yn eu meysydd priodol.
Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar ddiogelwch yr holl wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a bydd yn gwerthuso eu hansawdd.
Bydd lleisiau a phrofiadau menywod, rhieni a theuluoedd wrth wraidd y gwaith hwn. Mae eu safbwyntiau yn ganolog i ddeall ansawdd, diogelwch a diwylliant gwasanaethau.
Dywedodd yr Athro Sally Holland: “Mae gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau profiadau diogel a chadarnhaol i famau, babanod a theuluoedd ar adeg yn eu bywydau pan fyddant angen y gofal gorau posibl.
“Yn yr asesiad hwn, byddwn yn sicrhau bod eu lleisiau a’u profiadau wrth wraidd ein gwaith, a’n bod yn nodi arfer rhagorol a meysydd lle mae angen gwelliannau ar frys.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r panel arbenigol i wneud yn siŵr bod menywod, babanod a theuluoedd yn derbyn y gofal gorau posibl, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru.”
Mae datganiad ysgrifenedig Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal, ar gyhoeddiad heddiw yn cynnwys bywgraffiadau ar y gadair a'r panel yma.
Bydd y panel goruchwylio yn rhoi cyngor cychwynnol i'r Ysgrifennydd Iechyd erbyn diwedd y flwyddyn hon.