Mae dogfen ddigidol ryngweithiol newydd sy'n tynnu sylw at brif gyflawniadau a phrofiadau gweithio mewn clwstwr yng Nghymru ar gael nawr.
Mae 'Gweithio mewn Clystyrau yng Nghymru' wedi'i lunio gan dîm Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Mae ei chyhoeddi yn rhan o naratif newydd Model Gofal Sylfaenol i Gymru (a lansiwyd yn 2018), a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru.
Er bod y ddogfen 'Gweithio mewn Clystyrau yng Nghymru' yn ddogfen gynhwysfawr, mae ei natur ryngweithiol yn golygu y bydd defnyddwyr yn gallu mynd yn uniongyrchol at y cynnwys a'r adnoddau maen nhw eu heisiau.
Mae'n llawn gwybodaeth am y clystyrau unigol, cyfansoddiad y timau amlddisgyblaethol, yr ardal ddaearyddol maen nhw'n ei chwmpasu, ynghyd â'u cyflawniadau allweddol, y gwaith sydd wedi'i gwblhau a’r hyn y gellir ei ddysgu o hynny, a’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. Mae hefyd yn cynnwys y Grwpiau Cynllunio Clwstwr Cyfan yn yr un fformat.
Gellir cyrchu’r ddogfen drwy’r ddolen hon i wefan Gofal Sylfaenol Un GIG Cymru: gofalsylfaenolun.gig.cymru/files/gweithiadau-mewn-clystyrau-yng-nghymru-awst-2025-pdf/
Sue Morgan yw Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol ym Mherfformiad a Gwella GIG Cymru. Dywedodd hi: “Mae’n wych gweld enghreifftiau rhagorol o weithio mewn clystyrau yng Nghymru i gyd mewn un lle. Mae hefyd yn dangos cyfraniad Model Gofal Sylfaenol i Gymru fel y’i nodir yn y cynllun Cymru Iachach.
“Mae hon yn ddogfen gynhwysfawr, ond gan ei bod yn rhyngweithiol byddwch yn gallu pori wrth eich pwysau, dod yn ôl ati a’i hailddefnyddio fel adnodd gwerthfawr.”
Ychwanegodd Sue: “Bydd hefyd yn helpu gyda dysgu o brofiadau eraill. Mae'r clystyrau a'r grwpiau cynllunio Clystyrau Cyfan yn tynnu sylw at eu cyflawniadau allweddol, ond yn bwysicach fyth, yr hyn a weithiodd yn dda iddyn nhw a’r hyn na weithiodd cystal. Felly, gofyn - beth fydden nhw wedi'i wneud yn wahanol? Mae hyn yn golygu y gallwn ni i gyd ddysgu oddi wrth ein gilydd yn y clwstwr, gan osgoi dyblygu gwaith a chadw'r ffocws yn gadarn ar wella canlyniadau cleifion.”
Yn ogystal â'r ddogfen Cymru gyfan, bydd pob bwrdd iechyd yn cael ei fersiwn benodol ei hun wedi'i theilwra i'w ardal. Mae cyfres o fideos hefyd ar gael sy'n tynnu sylw at y gwaith sydd wedi'i wneud yng nghlwstwr Cwmtawe, sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, y gellir eu cyrchu yma.