Mae cyfraddau hunanladdiad dynion yng Nghymru fwy na thair gwaith cyfradd hunanladdiad menywod. Mae cydnabyddiaeth gynyddol bod risg o hunanladdiad ymhlith gweithwyr y diwydiant adeiladu, yn enwedig o ystyried mai gwrywod sy'n gweithio ynddo gan mwyaf.
Mae nifer o ffactorau sy'n cyfrannu at y risg o hunanladdiad yn y diwydiant. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys ansicrwydd swydd a achosir gan gontractau tymor byr, blinder oherwydd oriau gwaith hir, pwysau ariannol, diwylliant gweithle nad ydyw’n annog sgyrsiau am iechyd meddwl, a defnyddio alcohol a sylweddau fel strategaethau ymdopi. Mae stigma sy'n gysylltiedig â heriau iechyd meddwl yn aml yn atal pobl rhag ceisio cymorth nes eu bod mewn argyfwng. Mae cael cymorth a chefnogaeth gynnar yn hanfodol er mwyn cefnogi unigolion i wella ac i wella'r canlyniadau.
Mae Rhaglen Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio GIG Cymru wedi partneru â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) i gyflwyno ymgyrch ar draws safleoedd adeiladu yng Nghymru sy'n codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac sy’n cyfeirio pobl at y gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn annog pobl i siarad am hunanladdiad ac iechyd meddwl, a lleihau stigma ac annog ceisio cymorth.
Mae ymgyrch posteri yn cael ei chyflwyno ar draws safleoedd adeiladu yng Nghymru. Mae adnoddau eraill, fel 'sgyrsiau bocs tŵls' byr ar hyfforddiant ymwybyddiaeth o hunanladdiad, yn cael eu datblygu fel rhan o'r fenter.
Dywedodd Dr Chris O'Connor, Arweinydd Clinigol yn y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl, Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Gall stigma fod yn rhwystr enfawr i bobl gael mynediad at gymorth iechyd meddwl. Drwy godi ymwybyddiaeth o risg hunanladdiad ac iechyd meddwl, a chyfeirio at y cymorth sydd ar gael, gobeithiwn y byddwn yn annog pobl sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu i gael sgyrsiau pwysig am eu llesiant, cefnogi ei gilydd a theimlo'n hyderus y byddant yn gofyn am gymorth.”
Mae'r bartneriaeth rhwng GIG Cymru a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu yn ymdrech ar y cyd i wella iechyd meddwl a llesiant pobl sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu.
O'r chwith i'r dde: Julie Morgan, Aelod o'r Senedd, Ceri Fowler, Rhaglen Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed GIG Cymru, a Julia Stevens, Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu
Ychwanegodd Julia Stevens, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cymru ym Mwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu: “Mae llawer o gynnydd cadarnhaol wedi bod yn y sector adeiladu yn ystod y blynyddoedd diwethaf i godi ymwybyddiaeth o heriau iechyd meddwl, lleihau stigma a gwella mynediad at gymorth. Mae'r fenter hon yn un o nifer o fentrau sy'n digwydd ar draws y diwydiant i wella iechyd meddwl a llesiant. Rydym yn falch y bydd yr ymgyrch hon hefyd yn cyfrannu’n fawr at adeiladu ymhellach ar y momentwm hwn i'n helpu i greu newid ystyrlon. Mae'n hanfodol ein bod yn gofalu am ein gweithlu ac yn creu'r diwylliant priodol lle gall pobl gael mynediad at gefnogaeth heb ofni stigma, a fydd yn achub bywydau yn y pen draw.”
Safle adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd
Lansiwyd y fenter mewn dau ddigwyddiad, y cyntaf ar safle Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd dan oruchwyliaeth Sacyr, un o brosiectau adeiladu mwyaf Cymru yn ystod y degawdau diwethaf. Aeth Julie Morgan, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Caerdydd, i’r digwyddiad, a rhannu ei huchelgais y bydd pobl yn gallu siarad yn rhydd heb ofni stigma. Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad yng ngogledd Cymru ar safle ysgol newydd yn Sir y Fflint.
Unigolion yn lansiad y fenter ar safle adeiladu Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ddeng mlynedd newydd. Un o amcanion allweddol y strategaeth yw grymuso pobl, cael gwared ar stigma, helpu pobl i siarad neu wrando ar ei gilydd am hunanladdiad a hunan-niweidio, ac i geisio cefnogaeth pan fo ei hangen arnynt.
Gwybodaeth a chymorth
Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol Cymru - gwasanaeth cyfrinachol am ddim yng Nghymru i unigolion y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt. Ffoniwch am ddim ar 08000 487742.
C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl - Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol Ffoniwch am ddim ar 0800 132737.
Lighthouse – Yr elusen yn y diwydiant adeiladu - llinell gymorth a gwasanaeth testun 24/7 sy'n cynnig cefnogaeth a chyngor cyfrinachol am ddim ar broblemau bywyd – emosiynol, corfforol neu ariannol. Ffoniwch 0345 605 1956, neu anfonwch neges destun HARDHAT i 85258.
GIG 111 CYMRU PWYSWCH 2 - Am gymorth iechyd meddwl brys, ffoniwch GIG 111 a phwyswch opsiwn 2. Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym mhob rhan o Gymru.