Bydd rôl Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn hollbwysig i’n gallu i yrru gwell perfformiad ar draws GIG Cymru a darparu gwasanaethau gwell i bobl Cymru.
Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Roedd enw newydd yn un o argymhellion Grŵp Cynghori’r Gweinidog (GCG) diweddar a fu’n edrych ar berfformiad a chynhyrchiant yn GIG Cymru. Derbyniodd Llywodraeth Cymru’r argymhelliad a chynigiodd yr enw newydd, sef Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Ddydd Llun 2 Mehefin, aeth staff Perfformiad a Gwella i ddigwyddiad ymgysylltu rhithwir lle datgelwyd yr enw newydd gan ein tîm Uwch Arweinyddiaeth.
Clywodd y tîm hefyd negeseuon fideo gan Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Judith Paget CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru/Prif Weithredwr GIG Cymru.
Yn ei neges fideo, dywedodd Jeremy Miles AS: “Dros y misoedd nesaf bydd newidiadau pellach wrth i waith gael ei wneud i ailganolbwyntio Perfformiad a Gwella GIG Cymru o amgylch ei rôl ddeuol unigryw, sef rhoi cymorth i’r GIG i ddarparu gwasanaethau gwell i’r cyhoedd a chefnogi Llywodraeth Cymru i ddwyn y GIG i gyfrif.”
“Bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn adeiladu ar y sylfeini cryf sydd eisoes wedi’u rhoi ar waith gan Weithrediaeth GIG Cymru. “
“Rwy'n disgwyl y bydd y ffocws cryf ar sicrhau ansawdd, diogelwch a chanlyniadau gwell i gleifion yn parhau. Bydd hyn yn ganolog i’r gwaith sydd ar y gweill.”
“Bydd rôl Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn hollbwysig i’n gallu i yrru perfformiad gwell ar draws GIG Cymru a darparu gwasanaethau gwell i bobl Cymru.”