Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Iechyd Menywod: Adnabod Endometriosis yn Gynnar yng Nghymru

Mae meddygon teulu yng Nghymru yn cael eu hyfforddi i adnabod endometriosis yn gynharach fel rhan o'r gwaith parhaus i gyflawni'r camau gweithredu a nodir yng Nghynllun Iechyd Menywod Cymru.

Cafodd y cynllun ei greu gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Menywod, sy’n rhan o Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Mae’n nodi sut y bydd sefydliadau GIG Cymru yn cau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau drwy ddarparu gwasanaethau iechyd gwell i fenywod, a sicrhau eu bod yn cael eu clywed, a bod eu hanghenion iechyd yn cael eu deall. 

Mae rhaglen hyfforddi newydd yng Nghymru i adnabod endometriosis yn gynharach wedi arwain at gynnydd o 43% yng ngwybodaeth y meddygon teulu sy'n cymryd rhan am y cyflwr a mwy o hyder wrth drafod symptomau ac opsiynau triniaeth gyda menywod. 

Mae cynifer ag un o bob deg menyw yn dioddef o endometriosis yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn un o'r mentrau iechyd menywod y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn eu darparu ar gyfer meddygon teulu, i wella profiadau menywod o ofal iechyd yng Nghymru, yn unol ag amcanion y Cynllun. 

“Mae menywod wedi dweud wrthym eu bod yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu clywed, a bod eu symptomau’n cael eu hanwybyddu. Mae’r hyfforddiant hwn yn sicrhau bod lleisiau menywod yn ganolog i’w profiadau gofal iechyd, ac mae’n helpu meddygon teulu i gefnogi eu cleifion yn fwy effeithiol” dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. 

Maes blaenoriaeth ar gyfer Iechyd Menywod 

Mae endometriosis yn un o wyth maes blaenoriaeth ar gyfer gwella gofal iechyd i fenywod a merched a nodir yn y Cynllun Iechyd Menywod a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd. Llywiwyd y meysydd blaenoriaeth hyn trwy ymgysylltu â menywod, arbenigwyr iechyd, ymchwilwyr a'r gymuned iechyd menywod. Mae'r meysydd blaenoriaeth eraill yn cynnwys iechyd mislif, atal cenhedlu, iechyd cyn beichiogi, iechyd y pelfis, y menopos, trais yn erbyn menywod a heneiddio'n dda. 

Mae'r hyfforddiant hwn yn un o dros 60 o gamau gweithredu a nodir yn y Cynllun Iechyd Menywod i'w cyflawni o fewn y 10 mlynedd nesaf. Ers lansio'r Cynllun mae camau gweithredu eisoes yn cael eu cyflawni neu ar y gweill. Mae’r rhain yn cynnwys canolfannau iechyd menywod newydd a fydd yn agor ledled y wlad erbyn mis Mawrth 2026, canolfan ymchwil iechyd menywod gyntaf Cymru, £750,000 tuag at brosiectau ymchwil, a datblygu adnoddau addysgol ar gyfer nyrsys ysgol. 

Wrth siarad am y canolfannau Iechyd Menywod, dywedodd Dr. Helen Munro, arweinydd clinigol Iechyd Menywod yng Nghymru “Bydd diwallu anghenion menywod ar draws eu hoes wrth wraidd y canolfannau iechyd menywod newydd. 

Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ymuno â’r gwasanaethau presennol i ddarparu gwasanaethau iechyd menywod yn ein cymunedau. Bydd anghenion ein poblogaethau lleol, ynghyd ag adnoddau a seilwaith presennol, yn llywio dylunio a darparu’r canolfannau.”