Mae Dr Carolyn (Lyn) Middleton MBE, Arweinydd y Rhaglen Cydymaith Nyrsio Cofrestredig, wedi derbyn Gwobr Cyflawniad Oes fawreddog yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru.
Mae'r anrhydedd yn adlewyrchu gyrfa nyrsio ragorol o 47 mlynedd yn llunio ymarfer, polisi ac addysg nyrsio ledled Cymru a thu hwnt.
Dechreuodd ei thaith nyrsio yn y 1970au ac mae Lyn wedi gweithio mewn cyfres o rolau arweinyddiaeth dylanwadol, oedd yn cynnwys bod yn Gyfarwyddwr Cyswllt Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae ei gwaith wedi canolbwyntio'n gyson ar wella gofal i gleifion a chryfhau'r gweithlu nyrsio.
Ymhlith ei chyflawniadau niferus, arweiniodd Lyn gynllun peilot ailddilysu Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) Cymru, gan gefnogi dros 800 o nyrsys cofrestredig a helpu i lunio prosesau cenedlaethol ar gyfer safonau proffesiynol a dysgu gydol oes. Chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad y Fframwaith Ymarfer Uwch ac mae hi wedi bod yn falch o gynrychioli nyrsys Cymru yn rhyngwladol.
Mae Lyn hefyd wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno rôl y Cydymaith Nyrsio Cofrestredig i Gymru - yr adolygiad mwyaf arwyddocaol o strwythur y gweithlu nyrsio ers dros 20 mlynedd. Mae'r fenter wedi cryfhau capasiti, gwella gofal i gleifion, a chreu llwybrau gyrfa newydd i nyrsys.
Yn 2020, dyfarnwyd MBE i Lyn am ei gwasanaethau i nyrsio yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, sy'n brawf o'r effaith eithriadol y mae hi wedi'i chael ar y proffesiwn.
Dywedodd Dr Middleton: “Mae fy ngyrfa nyrsio i wedi bod yn anhygoel. Fel nyrs wrth erchwyn y gwely ac yna fel addysgwr, dydw i erioed wedi anghofio'r effaith y mae nyrsys yn ei chael ar glaf a'i deulu; rwy'n gobeithio'n fawr fod yr effaith rydw i wedi'i chael wedi bod yn gadarnhaol.
“Dros y blynyddoedd, rydw i wedi gweld newidiadau aruthrol, ond un peth sydd heb newid yw’r nyrsys anhygoel a’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill rydw i wedi’u cyfarfod ar hyd y ffordd. Mae rhai ohonyn nhw wedi fy helpu i’m llunio fel person, fel nyrs, addysgwr ac arweinydd nyrsio, a gobeithio hefyd fy mod i wedi helpu a meithrin eraill mewn ffordd debyg.
“Rydw i wedi bod wrth fy modd yn bod yn nyrs, mae wedi bod yn fwy nag y gallwn i erioed fod wedi breuddwydio amdano. Mae cynifer o uchafbwyntiau y byddaf yn myfyrio arnynt am weddill fy oes; ni fyddwn yn newid dim!”
Dywedodd Dom Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro Ansawdd, Diogelwch a Gwella, Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Mae cyfraniad Lyn i nyrsio yng Nghymru ac yn rhyngwladol yn eithriadol. Mae hi wedi mentora nifer dirifedi o nyrsys, hyrwyddo arloesi, llunio meddwl a datblygu nyrsio fel proffesiwn.
“Wrth i Lyn baratoi i ymddeol, mae’r wobr hon yn deyrnged addas iawn i yrfa eithriadol a ddiffiniwyd gan arloesi, tosturi, ac ymrwymiad diysgog i gleifion a’r gweithlu nyrsio, a fydd yn gadael gwaddol a fydd o fudd i gleifion ac ymarferwyr am flynyddoedd i ddod.
“Ar ran pob un ohonom yma ym Mherfformiad a Gwella, a GIG Cymru yn ehangach, hoffwn ddiolch i chi, Lyn, am eich ymrwymiad diysgog a’r caredigrwydd rydych chi wedi’i ddangos drwy gydol eich gyrfa. Mae ein gwasanaeth gofal iechyd yn gryfach o'ch herwydd chi, a dymunwn ymddeoliad llawen a boddhaus haeddiannol iawn i chi"