Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion a diweddariadau iechyd meddwl

Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru wedi cyhoeddi ei gylchlythyr diweddaraf sy'n canolbwyntio ar bynciau iechyd meddwl. Mae'r diweddariad yn grynodeb bob deufis o newyddion a diweddariadau, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr a rhanddeiliaid am ein gwaith iechyd meddwl, atal hunanladdiad a hunan-niweidio.

 

Yn y rhifyn hwn (Hydref 2025):

  • Diweddariad gan Ciara Rogers am y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl a sut rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i weithredu cymorth iechyd meddwl mynediad agored.
  • Gwybodaeth am ein naw gweminar newydd sy'n cefnogi trawsnewid iechyd meddwl
  • Ymgyrch newydd 'Ceisio Cymorth Nawr' yn hyrwyddo ceisio cymorth yn gynnar ar gyfer anhwylderau bwyta
  • Diweddariad gan Vishal Dave am y Rhaglen Diogelwch Cleifion Iechyd Meddwl
  • Safonau rhyddhau o'r ysbyty diogel ar gyfer iechyd meddwl wedi'u datblygu ar gyfer gwasanaethau cleifion mewnol
  • Cyfle i ddysgu mwy am yr E-fodiwl Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad
  • Goleuni ar gydweithwyr: Cwrdd â Vishal Dave, Rheolwr Gwella Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cenedlaethol

 

Gweld y cylchlythyr ar-lein, a chofrestru i dderbyn cylchlythyrau yn y dyfodol yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.