Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru wedi cyhoeddi cylchlythyr rheolaidd newydd yn canolbwyntio ar bynciau iechyd meddwl. Byddwn yn rhannu crynodeb o newyddion a diweddariadau bob deufis i gydweithwyr a rhanddeiliaid i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ym maes iechyd meddwl, atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
 
Yn y rhifyn hwn:
	- Gwybodaeth am rôl Perfformiad a Gwella GIG Cymru ar draws iechyd meddwl, atal hunanladdiad a hunan-niweidio
 
	- Diweddariad gan Ciara Rogers am y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl
 
	- Sut y bydd rhwydwaith newydd yn cynyddu dylanwad ymchwil a thystiolaeth ar ymarfer iechyd meddwl
 
	- Ymgyrch newydd i leihau’r risg o hunanladdiad yn y sector adeiladu yng Nghymru
 
	- Diweddariad gan Claire Cotter am y Rhaglen Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio
 
	- Lansio 'Gofod Cyfnewid Iechyd Meddwl' GIG Cymru ar Viva Engage
 
	- Myfyrio ar lwyddiant ein cyfres o weminarau
 
	- Sut rydym wedi cefnogi datblygiad proffesiynol swyddogion y wasg ar adrodd ar hunanladdiad
 
	- Sbotolau ar gydweithiwr: Cwrdd â Dr Jenny Hunt, ein Harweinydd Clinigol ar gyfer Ymyriadau Seicolegol
 
Gallwch ddarllen ein cylchlythyr ar-lein a chofrestru i gael rhifynnau’r dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.