Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion a diweddariadau iechyd meddwl – Rhagfyr 2025

Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru wedi cyhoeddi ei gylchlythyr diweddaraf sy'n canolbwyntio ar bynciau iechyd meddwl. Mae'r diweddariad yn grynodeb bob deufis o newyddion a diweddariadau, sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr a rhanddeiliaid am ein gwaith iechyd meddwl, atal hunanladdiad a hunan-niweidio.

 

Yn y rhifyn hwn:

  • Diweddariad gan Ciara Rogers am weithio gyda byrddau iechyd i sefydlu prosiectau arddangos i weithredu cymorth iechyd meddwl mynediad agored
  • Mae ein cyfres o weminarau yn parhau i gefnogi trawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl
  • Datblygu datganiadau ansawdd ar gyfer iechyd meddwl a hunan-niweidio
  • Codi llais profiadau bywyd drwy ddau banel cynghori iechyd meddwl newydd
  • Cynllun peilot i ddeall arferion cyfyngol yn ehangu i gynnwys iechyd meddwl
  • Cyhoeddwyd y safon gyntaf sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â risg hunanladdiad ar gyfer sefydliadau
  • Sbotolau ar gydweithiwr: Cwrdd â Sarah Cadman, Arweinydd y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Acíwt a Gofal mewn Argyfwng
  • Ymunwch â'n cymuned 'Gofod Cyfnewidfa Iechyd Meddwl'

 

Gweld y cylchlythyr ar-lein, a chofrestru i dderbyn cylchlythyrau yn y dyfodol yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.