Neidio i'r prif gynnwy

Sgoriau Rhybudd Cynnar - GIG Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig o ran diogelwch cleifion

Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled GIG Cymru wedi llwyddo i weithredu Sgoriau Rhybudd Cynnar safonol ar draws pob grŵp oedran ac mewn gwasanaethau mamolaeth acíwt.

Mae pob un o saith bwrdd iechyd Cymru wedi cyflwyno Sgôr Rhybudd Cynnar Cenedlaethol 2 (NEWS2), Sgôr Rhybudd Cynnar Pediatrig (PEWS), Sgôr Rhybudd Cynnar ‘Sbardun ac Olrhain’ ar gyfer Babanod Newydd-anedig (NEWTT2), a Sgôr Rhybudd Cynnar Mamolaeth (MEWS) yn llwyddiannus. Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gweithredu NEWS2.

Mae'r offer Sgôr Rhybudd Cynnar yn darparu dulliau unffurf yn seiliedig ar arsylwi ar arwyddion bywyd hanfodol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol adnabod dirywiad acíwt, a gallu cyfleu lefel yr acíwtedd trwy ddefnyddio iaith gyson. Maent yn rhan o systemau ehangach ar gyfer atal, adnabod ac ymateb yn gyflym i achosion pan fo cleifion yn mynd yn fwyfwy sâl.

Drwy'r Rhwydwaith Gweithredu Dirywiad Corfforol Acíwt (APDI),  y Rhwydwaith Gofal Critigol, Meddygaeth Frys a Thrawma, y Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Strategol  a’r Rhwydwaith Iechyd Plant, Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru (NHSWPI) wedi cefnogi gweithredu'r sgoriau yn dilyn y cyfarwyddyd i’w defnyddio yng Nghylchlythyrau Iechyd Cymru a gyhoeddwyd ym mis Medi a mis Hydref 2024, a mis Chwefror 2025.

Dywedodd Dr Babu Muthuswamy – Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Gofal Critigol, Meddygaeth Frys a  Thrawma: “Mae gweithredu sgoriau rhybudd cynnar safonol ar draws pob oedran a lleoliad mamolaeth yn foment bwysig i ddarparwyr gofal iechyd yng Nghymru, gan ei fod yn rhoi iaith gyffredin i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gyfathrebu a chynllunio gofal ar gyfer cleifion sy'n dirywio'n acíwt. Mae'n darparu sylfaen i adeiladu a gwella rhaglenni diogelwch cleifion eraill, yn cynnwys Call 4 Concern yng Nghymru.

“Nid yw hyn yn hawdd o bell ffordd a dim ond o ganlyniad i’r arweinyddiaeth gyfunol a’r cydweithio ar draws yr holl bartneriaid o fewn Perfformiad a Gwella GIG Cymru a’r byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau yng Nghymru y gellid ei gyflawni.”

Mae cyflwyno'r sgoriau yn garreg filltir bwysig o ran diogelwch cleifion yng Nghymru. Mae’n darparu platfform ar gyfer gwneud gwaith pellach i wella'r broses o adnabod dirywiad acíwt ac ymateb iddo.

Bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru nawr yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i dimau ledled GIG Cymru. Bydd hyn yn cynnwys cymorth i gryfhau dibynadwyedd systemau uwchgyfeirio trwy'r Bartneriaeth Gofal Diogel, a chynorthwyo i weithredu system uwchgyfeirio sy’n rhoi lle canolog i’r claf a’r teulu o'r enw Call 4 Concern ledled Cymru.

Dywedodd Dominique Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro Ansawdd, Diogelwch a Gwella, Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Mae cyflwyno Sgoriau Rhybudd Cynnar safonol yn ddatblygiad allweddol o ran diogelwch cleifion yng Nghymru. Mae cyflwyno'r sgoriau ar gyfer pob grŵp oedran o fewn amserlen fer yn gryn gamp gan ein byrddau iechyd a'n hymddiriedolaethau, ac maent yn haeddu cydnabyddiaeth.

“Bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn parhau i gynnig cymorth i dimau i ymgorffori’r offer hyn yn ymarferol, er mwyn sicrhau’r gofal mwyaf diogel posibl ledled Cymru.”