Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid cyntaf o'i fath i werthuso cymorth iechyd meddwl mynediad agored ledled Cymru

Mae dyfarniad ymchwil mawr wedi'i sicrhau i werthuso dull arloesol o gefnogi iechyd meddwl ledled Cymru, gyda'r nod o wella mynediad, profiad a chanlyniadau i bobl sydd angen gofal.

Wedi'i ariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), bydd y Grant Rhaglen gwerth £3.4m ar gyfer Ymchwil Gymhwysol yn cefnogi gwerthusiad cenedlaethol o wasanaethau iechyd meddwl mynediad agored dros bedair blynedd.

Mae'r symud i wasanaethau mynediad agored, a gynlluniwyd i roi cymorth cyflymach a mwy hyblyg i bobl pan fydd ei angen arnynt, yn ymateb i'r galw cynyddol ac amseroedd aros hir am gymorth iechyd meddwl.

O dan y model newydd, bydd pobl yn gallu cael mynediad at gymorth heb lwybrau atgyfeirio traddodiadol, yn cael cymorth ar yr un diwrnod y maent yn gofyn amdano ac yn cael dewis y math o gymorth sy'n diwallu eu hanghenion orau.

Mae’r gwaith o werthuso’r rhaglen Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad Agored yn cael ei arwain gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru, sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Chanolfan Treialon Ymchwil ac Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Northumbria yn Newcastle, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a ProMo-Cymru.

Bydd y grant hwn yn cefnogi Cymru i fod y wlad gyntaf yn y byd i dreialu system iechyd meddwl mynediad agored, gan roi cymorth i bobl ar yr un diwrnod a mwy o ddewis o ran gofal, gyda'r potensial i drawsnewid canlyniadau iechyd meddwl.

Bydd pobl sydd â phrofiad bywyd yn chwarae rhan ganolog drwy gydol yr ymchwil drwy baneli a grwpiau rhanddeiliaid, gan lunio'r astudiaeth a sicrhau bod y gwaith yn adlewyrchu anghenion cymunedau ledled Cymru.

Dywedodd Ciara Rogers, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd Meddwl, Anabledd Dysgu a Niwroamrywiaeth yn Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Er bod tystiolaeth yn awgrymu y gall ymyrraeth gynnar a rhagor o ddewis drwy fodel mynediad agored wella canlyniadau, nid yw’r dull hwn erioed wedi’i werthuso ar raddfa genedlaethol.

“Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn ein galluogi i ddeall a yw gwasanaethau iechyd meddwl mynediad agored yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yng Nghymru drwy wella mynediad at gymorth, gwella profiadau gofal a chyflawni canlyniadau gwell.”

Dywedodd Dr Rachel McNamara, Cyfarwyddwr Is-adran Iechyd yr Ymennydd a Llesiant Meddyliol y Ganolfan Ymchwil Treialon a chyd-Brif Ymchwilydd ar gyfer y gwerthusiad: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws y GIG, y byd academaidd, y trydydd sector ac Arbenigwyr trwy Brofiad Bywyd i werthuso gweithrediad gwasanaethau iechyd meddwl mynediad agored yng Nghymru.

“Mae hyn yn unol â’n cenhadaeth i hyrwyddo ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant drwy gydol oes.”

Ychwanegodd Tony Cope, Arbenigwr drwy Brofiad Bywyd a Chyd-gadeirydd Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Meddwl: “Mae’r cyllid NIHR ar gyfer gwerthuso’r rhaglen Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad Agored yn gyfle hanfodol i ddeall yr hyn sy’n gweithio go iawn i bobl sy’n defnyddio cymorth iechyd meddwl, a pham.

“Rwy’n croesawu’r buddsoddiad hwn mewn tystiolaeth sy’n gwerthfawrogi profiad bywyd, yn cryfhau dysgu ledled Cymru, ac yn helpu i lunio gwasanaethau sy’n fwy hygyrch, yn ymatebol ac wedi’u gwreiddio yn yr hyn sy’n bwysig i bobl.”

Mae'r gwerthusiad yn cefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Llywodraeth Cymru 2025 i 2035, sy'n cynnwys ymrwymiad i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl mynediad agored.

 

Nodiadau i olygyddion

  • Mae’r Ganolfan Ymchwil Treialon ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael ei hariannu'n gyhoeddus gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
  • Ynglŷn â'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR)

Cenhadaeth y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) yw gwella iechyd a chyfoeth y genedl drwy ymchwil. Rydym yn gwneud hyn trwy’r canlynol:
• Ariannu ymchwil amserol o safon sy'n fuddiol i'r GIG, iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol;
• Buddsoddi mewn arbenigedd, cyfleusterau a gweithlu cyflenwi medrus o'r radd flaenaf i drosi darganfyddiadau yn driniaethau a gwasanaethau gwell;
• Creu partneriaeth â chleifion, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a chymunedau, gan wella perthnasedd, ansawdd ac effaith ein hymchwil;
• Denu, hyfforddi a chefnogi’r ymchwilwyr gorau i fynd i’r afael â heriau cymhleth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol;
• Cydweithio â chyllidwyr cyhoeddus eraill, elusennau a diwydiant i helpu i lunio system ymchwil gydlynol sy’n gystadleuol yn fyd-eang;
• Ariannu ymchwil a hyfforddiant iechyd byd-eang cymhwysol i ddiwallu anghenion y bobl dlotaf mewn gwledydd ag incwm isel a chanolig.
Mae’r NIHR yn cael ei ariannu gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae ei waith mewn gwledydd incwm isel a chanolig yn cael ei ariannu'n bennaf trwy gyllid datblygu rhyngwladol y DU gan lywodraeth y DU.