Bydd y gyfres Gwella Ansawdd ar Waith yn dod â thimau sydd wedi ennill Gwobrau GIG Cymru ynghyd i rannu sut maen nhw wedi gwella canlyniadau cleifion, gwella darparu gwasanaethau ac ymdrin â heriau drwy wella ansawdd.
Nod pob sesiwn 30 munud yw cefnogi lledaeniad a mabwysiadu dulliau gwella profedig ledled Cymru trwy rannu dysgu gan dimau sydd wedi ennill gwobrau ac ymchwilio i sut y gellir addasu syniadau llwyddiannus mewn gwahanol leoliadau iechyd a gofal.
Clywch sut y cyflwynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Emboleiddio Rhydweliau’r Penglin (GAE), sef triniaeth heb dorri’n ormodol ar y corff sy'n cynnig gobaith newydd i bobl sy'n byw gyda phoen osteoarthritis cronig yn y pen-glin.
Cewch weld sut y gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ailgynllunio llwybrau llawfeddygol i wella effeithlonrwydd theatrau, ehangu capasiti llawfeddygol a lleihau amseroedd aros trwy arloesedd digidol a gweithio ar y cyd.
Dysgwch sut y daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre â phrofion diagnostig i gartrefi cleifion, gan wella gwneud penderfyniadau, lleihau derbyniadau i'r ysbyty a chynorthwyo pobl i aros gartref yn ystod gofal diwedd oes.
Ymchwiliwch i sut y trawsnewidiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ofal osteoporosis gan ddefnyddio arloesedd digidol, sy’n arwain at gynnydd sylweddol mewn adnabod torasgwrn a helpu mwy o gleifion i gael mynediad at driniaeth a chymorth amserol.
Clywch sut y datblygodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Wasanaeth Gofal Alcohol integredig trwy gyd-gynhyrchu a chydweithio ar draws y system, gan wella mynediad at gymorth arbenigol a lleihau derbyniadau i'r ysbyty.