Cyn bo hir, bydd pobl sydd â symptomau strôc yn gallu cael diagnosis yn unrhyw le yng Nghymru, a hynny cyn cyrraedd yr ysbyty.
Mae cyflwyno Brysbennu drwy Fideo cyn mynd i’r Ysbyty (PHVT) ledled Cymru yn cael ei gwblhau a bydd hyn yn galluogi arbenigwyr strôc i weithio o bell gyda pharafeddygon drwy alwad fideo er mwyn gwneud diagnosis a phenderfynu ar y camau gweithredu gorau cyn i glaf gyrraedd yr ysbyty.
Mae strôc yn argyfwng meddygol. Mae'n un o brif achosion marwolaeth ac anabledd hirdymor yng Nghymru. Mae oedi byr cyn cael triniaeth yn arwain at farwolaethau ac anabledd y gellir eu hatal
Mae'r gwasanaeth PHVT yn cael ei gyflwyno ledled Cymru yn dilyn cynlluniau peilot llwyddiannus, gyda chefnogaeth Perfformiad a Gwella GIG Cymru drwy'r Rhwydwaith Gweithredu Strôc Cenedlaethol. Mae’n galluogi i ddiagnosis gael ei roi yn gynt a rhoi triniaeth yn gynt, sy’n gwella’r siawns o oroesi a chael gwellhad.
Mae hyn yn hwyluso canfod strôc yn fwy cywir i ddechrau, ac wrth gael mynediad at arbenigwyr drwy PHVT gellir cael cywirdeb o 90 y cant wrth roi diagnosis. Mae'r dull FAST yn un y gall y cyhoedd ei ddefnyddio. Mae’n canolbwyntio ar wendid yn yr wyneb, gwendid yn y fraich a phroblemau â’r lleferydd ac mae’n llwyddiannus wrth adnabod strôc 50 y cant o'r amser.
Mae’r achosion sy'n defnyddio'r gwasanaeth PHVT yng Nghymru wedi arwain at 50 y cant yn fwy o gleifion na chyfartaledd y wlad yn derbyn Thrombolysis. Triniaeth feddygol yw Thrombolysis sy'n defnyddio cyffuriau chwalu clotiau i dorri'r clotiau gwaed yn yr ymennydd i lawr. Mae'r cyfraddau thrombectomi, triniaeth frys sy'n tynnu clotiau gwaed o'r ymennydd, wedi bod yn ddwbl cyfartaledd Cymru ar gyfer yr achosion hynny y defnyddiwyd PHVT ar eu cyfer.
Dywedodd Dr Shakeel Ahmad, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Strôc: “Mae strôc yn anaf sylweddol i’r ymennydd sy’n effeithio ar filiynau o gelloedd yn yr ymennydd bob munud cyn bod triniaeth yn cael ei rhoi.
“Mae PHVT yn rhoi cyfle i glinigwyr wneud diagnosis cyflym a chywir o strôc o bell sy’n golygu eu bod yn gallu paratoi triniaeth i’w rhoi ar unwaith pan fydd y claf yn cyrraedd yr ysbyty. Bydd rhoi diagnosis yn gynt yn y modd hwn yn arwain at fwy o bobl yn goroesi strôc, a bydd mwy o siawns o gael gwellhad.
“Mae hwn yn gam ymlaen hanfodol i ofal strôc yng Nghymru a fydd yn dod â manteision pellgyrhaeddol i gleifion, eu hanwyliaid a’u teuluoedd, a’r system iechyd a gofal ehangach.”
Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru wedi bod yn cefnogi'r cynlluniau peilot PHVT fel rhan o ymdrechion ehangach i wella gofal ar draws y llwybr strôc yn unol â'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Strôc.
Nod y datganiad ansawdd yw gwella canlyniadau ansawdd bywyd i bobl sydd mewn perygl o gael strôc, y rhai sydd wedi cael strôc, eu gofalwyr, eu teulu a'u hanwyliaid, a'r gweithlu strôc.
Dywedodd Dr Anthony Gibson, Cyfarwyddwr Meddygol, Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Dylid llongyfarch cydweithwyr strôc ledled Cymru am eu hymdrechion, gyda chefnogaeth y Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Strôc Cenedlaethol, i gyflwyno Brysbennu drwy Fideo cyn mynd i’r Ysbyty.
“Bydd y datblygiad hwn yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i bobl sy'n cael strôc a'r rhai o'u cwmpas, a bydd gwella canlyniadau hefyd yn lleihau baich strôc ar adnoddau'r GIG, sydd dan bwysau.
“Mae cyfle sylweddol i adeiladu ar y gwaith rhagorol hwn ar draws arbenigeddau eraill, a byddwn yn archwilio iddo er budd cleifion a’r system gofal iechyd yn ehangach ledled Cymru.”
I gael rhagor o wybodaeth am feysydd ar draws y llwybr y mae GIG Cymru yn eu targedu ar gyfer gwelliant, gweler y Datganiad Ansawdd ar gyfer Strôc.