Mae’r tîm yn llunio ac yn trosi’r cyfeiriad polisi a’r safonau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn gamau gweithredu, gan weithio mewn partneriaeth ag uwch arweinwyr, rhanddeiliaid allanol ac arweinwyr polisi.
Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth genedlaethol ac arweinyddiaeth system ar gyfer:
Yng Nghymru, mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn cynnwys dyletswydd ansawdd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2023.
Mae’r ddyletswydd yn berthnasol i gyrff GIG Cymru. Mae hefyd yn berthnasol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'u swyddogaethau iechyd.
Mae ganddi ddau nod cyffredinol:
Mae’r ddyletswydd ansawdd yn berthnasol i bopeth a wnawn yn GIG Cymru, p’un a ydym yn gweithio mewn rolau clinigol neu wasanaethau anghlinigol.
Mae sefydliadau iechyd ledled y byd yn cydnabod yr angen i symud o ffocws ar fethodoleg gwella ansawdd i weithredu dull ehangach o reoli a gwella ansawdd.
Mae'r ddyletswydd ansawdd yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff iechyd yng Nghymru adrodd ar eu taith ansawdd ac fel rhan o hyn, sefydlu system rheoli ansawdd (QMS).
Mae Gwelliant Cymru wedi treulio’r pum mlynedd ddiwethaf yn ymchwilio, datblygu a phrofi dull system rheoli ansawdd sy’n galluogi sefydliad iechyd i weithredu gydag ansawdd yn greiddiol iddo ac i wella’n barhaus i ddiwallu anghenion y boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu.
Mae Gwelliant Cymru wedi treialu’r system rheoli ansawdd mewn dau sefydliad hyd yma.
Bydd gwerthfawrogiad o ansawdd a QMS yn darparu ffocws pwysig ar gyfer y Bartneriaeth Gofal Diogel ac ar lefel sefydliadol trwy ffrwd waith Dyletswydd Arweinwyr Ansawdd. Dysgwch fwy am y Bartneriaeth Gofal Diogel.
Mae prosiect cenedlaethol yn datblygu Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau Cymru, dan arweiniad Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Mae'n darparu cyfres o fesurau ansawdd a diogelwch, a fydd yn galluogi i ansawdd gael ei ymgorffori wrth wraidd GIG Cymru. Mae'r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau yn gyson â Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal (2023) yn y Ddyletswydd Ansawdd, sy’n rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).