Er y gall y derminoleg 'QMS' fod yn newydd i chi, mae'n debygol y byddwch yn adnabod agweddau ar reoli ansawdd yn eich gwaith eich hun ac ar draws eich sefydliad, megis cynllunio ansawdd neu wella ansawdd.
Yn GIG Cymru, rydym wedi datblygu’r diffiniad canlynol ar gyfer QMS drwy ddadansoddi’r datblygiadau diweddaraf yn y llenyddiaeth ac o ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid:
Diffiniad o System Rheoli Ansawdd ar gyfer GIG Cymru
Fframwaith gweithredu i fodloni anghenion y boblogaeth a wasanaethwn yn barhaus, yn ddibynadwy ac yn gynaliadwy.
Yn ei hanfod, mae QMS yn dod â phedair agwedd allweddol ynghyd – cynllunio ansawdd, gwella ansawdd, rheoli ansawdd a sicrhau ansawdd – ac mae’n cydlynu’r rhyng-gysylltedd rhwng yr agweddau hyn i sicrhau gofal o ansawdd uchel. Yn unol â’r ddyletswydd ansawdd, diffinnir gofal o ansawdd ar gyfer GIG Cymru fel gofal diogel, prydlon, effeithiol, effeithlon, teg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae hyn yn adleisio ymdrech y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd tuag at ansawdd system gyfan, sy'n pwysleisio ansawdd fel y strategaeth sefydliadol, yn hytrach nag elfen ohoni.
“Ym maes gofal iechyd, y broblem yw bod pobl yn cael eu hamlygu i ansawdd trwy brosiectau ac mae’r ansawdd sy’n dod i’r amlwg mewn gofal iechyd yn rhywbeth ar wahân. Ond ym myd busnes, ansawdd yw’r ffordd rydych yn cynnal busnes. […] yn aml mewn ysbytai bydd pobl o ansawdd da, gweithgareddau o ansawdd da, pethau o ansawdd da. Ond nid o reidrwydd y ffordd y mae’r sefydliad yn cael ei reoli neu ei gynnal”