Neidio i'r prif gynnwy

Drafft o Fanyleb Gwasanaeth Cyhyrysgerbydol (MSK) Integredig Gofal Sylfaenol a Chymunedol Cymru Gyfan

Mae'r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cyhyrysgerbydol (MSK) yn falch o rannu'r fersiwn drafft o Fanyleb Gwasanaeth Cyhyrysgerbydol (MSK) Integredig Gofal Cymunedol a Sylfaenol Cymru Gyfan, a ddatblygwyd ar y cyd â rhanddeiliaid ar draws GIG Cymru a'r trydydd sector i gefnogi gofal MSK cyson o ansawdd uchel ledled Cymru.

Nod y fanyleb hon yw nodi gweledigaeth glir, unedig ar gyfer sut y dylid darparu gwasanaethau MSK - a sicrhau mynediad teg, canlyniadau gwell, a phrofiad mwy integredig i bobl. Mae'n adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol ac yn adeiladu ar arferion gorau, ond, yn bwysicaf oll, mae angen iddi adlewyrchu lleisiau'r rhai a fydd yn defnyddio, yn darparu'r gwasanaethau ac yn eu cefnogu.

Mae eich barn yn hanfodol.

P'un a ydych chi'n glinigydd, yn rheolwr, yn defnyddiwr gwasanaeth, neu'n sefydliad partner, bydd eich mewnwelediadau'n helpu i lunio gwasanaeth sy'n gweithio i bawb. Rydym am sicrhau bod y fanyleb yn ymarferol, yn gynhwysol, ac yn cyd-fynd ag anghenion cymunedau lleol a gweithwyr proffesiynol.

A fyddech cystal â neilltuo ychydig o amser i adolygu'r drafft:  All-Wales Community and Primary Care Integrated Musculoskeletal (MSK) Service Specification v0.6 Consultation

Cliciwch yma i rannu eich adborth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod y fanyleb ymhellach, mae croeso i chi gysylltu â ni. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 4yp ar ddydd Llun 3 Tachwedd 2025.

Rhannwch gyda thimau a chydweithwyr yn ôl yr angen.

Diolch i chi am eich amser a'ch cyfraniad gwerthfawr.