Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Stroc Genedlaethol

Strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru ac mae'n gallu cael effaith hirdymor sylweddol ar oroeswyr strôc.

Ar hyn o bryd, mae tua 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod 7,400 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn.

Mae’r datganiad ansawdd newydd ar gyfer strôc yn gosod gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau strôc yng Nghymru yn y dyfodol.

Cafodd ei ddatblygu gyda’r Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc, sy’n rhoi arweiniad i’r Llywodraeth, a gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y Gymdeithas Strôc yng Nghymru.

Mae’n amlinellu sut y bydd gwasanaethau’n newid i wella ansawdd y gofal a lleihau amrywiadau ledled Cymru. Er enghraifft, drwy fuddsoddi mewn deallusrwydd artiffisial gallwn helpu i gefnogi diagnosis o strôc, gan felly wella gofal cleifion a sicrhau canlyniadau gwell.

Y camau nesaf fydd llunio cynllun cyflawni a bydd Dr Shakeel Ahmad, arweinydd clinigol cenedlaethol Cymru ar gyfer strôc, yn goruchwylio’r gwaith hwnnw, drwy Rhaglen Strôc Genedlaethol.

Bydd Dr Ahmad hefyd yn cefnogi byrddau iechyd i ddatblygu rhwydwaith o ganolfannau strôc cynhwysfawr sy'n gweithio ar draws ffiniau i wella gofal o driniaeth acíwt i gymorth adsefydlu.

Mae gweithio gyda sefydliadau a grwpiau perthnasol yn rhan hollbwysig o’r cynllun newydd i fynd i’r afael â meysydd megis iechyd y cyhoedd, atal, adsefydlu, gofal i’r rhai sy’n ddifrifol wael neu ar ddiwedd oes, yn ogystal â chydweithio â gwasanaethau cyflyrau eraill megis cardiofasgwlaidd, niwrolegol a diabetes.