Mae'r safonau'n adlewyrchu’r canllawiau clinigol cenedlaethol cyfredol ar gyfer strôc a'r safonau gofal cydnabyddedig ledled y DU. Fe’u datblygwyd gan y Rhwydwaith Gweithredu Strôc, mewn cydweithrediad â chymuned eang o weithwyr proffesiynol strôc a phartneriaid allweddol ledled Cymru.
Bydd y safonau, ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi, yn rhan annatod o'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Strôc sy’n nodi ein huchelgais gyffredin i ddarparu gofal strôc teg, o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a hynny ar gyfer unigolion, teuluoedd a gofalwyr ledled Cymru.
Mae eich mewnwelediadau’n hanfodol i sicrhau bod y safonau hyn yn adlewyrchiad cywir o anghenion a phrofiadau pobl ledled Cymru. P'un a ydych chi'n weithiwr proffesiynol sy'n ymwneud â darparu gofal, yn ofalwr, yn sefydliad gwirfoddol, neu'n rhywun sydd â phrofiad bywyd, rydym yn eich annog i rannu eich barn.
Bydd y cyfle i ymgysylltu’n rhedeg tan 4yp, dydd Gwener 29 Awst.
Cysylltwch â ni yn nhspi.strokeadmin@wales.nhs.uk os oes gennych ymholiad.