Bydd lleisiau a phrofiadau menywod, rhieni a theuluoedd, a'r gweithlu mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru wrth wraidd yr Asesiad Sicrwydd Mamolaeth a Newyddenedigol Cenedlaethol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r Panel Goruchwylio Annibynnol a benodwyd i gynnal yr asesiad yn cynnal amrywiaeth o sesiynau gwrando ledled Cymru. Boed yn gadarnhaol neu'n fwy heriol, nod y panel yw casglu ystod lawn o brofiadau diweddar o ofal mamolaeth a newyddenedigol, sy'n gynrychioliadol o bob cymuned.
Cynhelir cyfres o sesiynau gwrando unigol a grŵp wyneb yn wyneb ledled Cymru yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd. O ddydd Mercher 29 Hydref, bydd y sesiynau’n digwydd am dri diwrnod ym mhob rhanbarth bwrdd iechyd.
Cynhelir sesiynau gwrando rhithwir i'r rhai na allant fynd i'r sesiynau yn eu hardal, tra gall pobl hefyd rannu eu profiadau diweddar yn ysgrifenedig.
Cyn cwblhau'r ffurflen, darllenwch ein taflen wybodaeth ynglŷn â sut y bydd eich data yn cael ei brosesu.
Gallwch weld ein Hysbysiad Preifatrwydd yma.