Neidio i'r prif gynnwy

Staff GIG Cymru - Eich lle i gael eich clywed

Eich lle i gael eich clywed

Fel rhan o'r asesiad sicrwydd cenedlaethol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru, mae'r Panel Goruchwylio Annibynnol wedi nodi bod gwrando ar ein gweithlu yn ffrwd waith allweddol.

Mae eich lle i gael eich clywed yn fwy nag ymarfer gwrando.  Mae'n ymrwymiad i ddysgu gennych chi, sef y rhai sy'n ymwneud â'r gwaith hwn bob dydd. 

Rydym yn eich gwahodd i rannu eich straeon, eich syniadau a’ch myfyrdodau gyda ni.

P'un a yw eich profiad yn heriol, yn galonogol neu rywle rhyngddynt, mae eich safbwynt yn bwysig.

Llenwch y ffurflen isod.

Gallwch ysgrifennu cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch.

Mae croeso i chi ddefnyddio'r rhain i'n tywys trwy eich profiadau yn y gorffennol, eich safbwynt presennol a'ch gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Nid oes angen i chi gynnwys eich enw na'ch cyfeiriad e-bost os byddai'n well gennych aros yn ddienw.

Bydd pob cyfraniad o gymorth, felly diolch i chi am roi o’ch amser i rannu eich llais.

 

Cyfrinachol.  Parchus.  Effeithiol.

Gwrando gyda phwrpas.

 

FFURFLEN AR-LEIN