Sefydlwyd Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru yn 2019, drwy uno'r ddwy rwydwaith ar wahân, Rhwydwaith Mamolaeth Cymru a Rhwydwaith Newyddenedigol Cymru.
Ffocws y Rhwydwaith yw dod â rhanddeiliaid ledled Cymru at ei gilydd i gefnogi ei gilydd i wella diogelwch ac ansawdd cyffredinol gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol a phrofiadau teuluoedd yng Nghymru.
Wrth wraidd y rhwydwaith mae'r nod o wella canlyniadau a phrofiad i bob mam, baban a'u teuluoedd gan wybod bod rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yn hanfodol i leihau problemau iechyd.
Dyma rai o'r cyfrifoldebau allweddol: