Dyblu Nifer yr Achosion o Doresgyrn Breuder sy'n cael eu canfod, gan nodi pum mlynedd o welliant yng Nghymru

Mae nifer yr achosion o doresgyrn breuder sy’n cael eu canfod wedi dyblu yng Nghymru, gyda mwy na 10,000 o gleifion wedi'u nodi yn 2025.

Yn 2025, cafodd 49.2 y cant o achosion o doresgyrn breuder eu canfod gan Wasanaethau Cyswllt Toresgyrn ledled Cymru, sef 10,604 o gleifion. Yn ystod yr un cyfnod, parhaodd cyfraddau triniaeth i wella gan ragori ar y targed cenedlaethol o 50%, gan gyrraedd 57.4 y cant.

Mae osteoporosis yn effeithio ar filoedd o bobl ledled Cymru ac mae'n un o brif achosion toresgyrn breuder, a all gael effaith ddinistriol ar annibyniaeth, ansawdd bywyd a gwasanaethau gofal iechyd.

Ers ei sefydlu yn 2020, mae’r Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Iechyd Esgyrn, rhan o Berfformiad a Gwella GIG Cymru, wedi cefnogi Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn i wella’r broses o ganfod a thrin pobl gyda thorasgwrn breuder yn sylweddol.

Mae gwelliannau pellach yn ystod y cyfnod hwnnw yn cynnwys gwella mynediad at sganio dwysedd esgyrn (DEXA), gyda 1,728 o gleifion yn derbyn sgan DEXA o fewn 12 wythnos yn 2025, o’i gymharu â 779 o gleifion yn 2024.

Mae ymlyniad hirdymor at driniaeth hefyd wedi gwella, gyda ymlyniad at feddyginiaeth osteoporosis am 52 wythnos yn sylweddol uwch na lefelau meincnod y DU sef 31.7% yn 2024.

Dywedodd Dr Inderpal Singh, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Esgyrn yng Nghymru: “Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio cryf rhwng cleifion, clinigwyr, Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru, gofal sylfaenol, a’n partneriaid gwerthfawr, gan gynnwys y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol.

“Gyda’n gilydd, rydym wedi cryfhau gwasanaethau osteoporosis, gwella dulliau o ganfod ac atal toresgyrn, a chynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd esgyrn gydol oes.

“Er ein bod yn dathlu’r cyflawniadau hyn a’r cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar y gwaith sydd eto i’w wneud. Dylai pob unigolyn sydd mewn perygl o gael osteoporosis neu dorasgwrn breuder gael mynediad amserol at asesiad, ymchwiliadau priodol, a thriniaeth a chymorth effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Adeiladu dull cenedlaethol cyson

Er mwyn cefnogi gofal o ansawdd uchel a chyfartal ledled Cymru, mae'r Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Iechyd Esgyrn wedi datblygu a lansio Llwybr Iechyd Cymunedol Osteoporosis ac Iechyd Esgyrn a Llwybr Iechyd Cymunedol Atal Cwympiadau.

Mae cyflwyno Offeryn Archwilio Datganiad Ansawdd Iechyd Esgyrn, sy'n cynnwys sgorio awtomataidd ac adroddiadau chwarterol y Bwrdd Iechyd, yn helpu gwasanaethau i fesur perfformiad yn gyson a gyrru gwelliant parhaus.

Cydweithio â chleifion a phartneriaid

Un o gonglfeini llwyddiant y ffrwd waith fu cyfranogiad gweithredol pobl â phrofiad bywyd a’r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol. Mae cynrychiolwyr cleifion wedi cael eu cynnwys yn Rhwydwaith Gweithredu Clinigol Iechyd Esgyrn, gan helpu i lunio llwybrau, adnoddau gwybodaeth i gleifion, a datblygu gwasanaethau.

Mae cydweithio cenedlaethol hefyd wedi'i gryfhau trwy fentrau dysgu gan gymheiriaid a chyflwyno Cynhadledd y Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn ac Iechyd Esgyrn Cenedlaethol yn llwyddiannus yn 2026, gan ddod â chlinigwyr, rheolwyr, cynrychiolwyr cleifion a phartneriaid o bob cwr o Gymru ynghyd.

Dywedodd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru: " Yn aml, ni chaiff osteoporosis ei gydnabod nes bod torasgwrn yn digwydd, gyda chanlyniadau difrifol posibl i iechyd, annibyniaeth ac ansawdd bywyd pobl. Felly mae'r cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru o ran dod o hyd i’r rhai sydd mewn perygl a gwella mynediad at asesiad a thriniaeth yn bwysig iawn.

“Mae angen i ni nawr adeiladu ar y cynnydd gwych hwn fel bod atal, diagnosis cynnar a thriniaeth effeithiol yn dod yn rhan gyson o ofal ledled Cymru. Drwy uno gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac ysbytai, a chefnogi pobl i amddiffyn eu hiechyd esgyrn drwy gydol eu hoes, gallwn atal toresgyrn y gellir eu hosgoi a helpu mwy o bobl i aros yn egnïol, yn annibynnol ac yn iach wrth iddynt heneiddio.”

Ychwanegodd Ruth Wakeman, Cyfarwyddwr Gwasanaethau, Dylanwadu ac Arloesi y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol: “Fel yr elusen gleifion i bobl yr effeithir arnynt gan osteoporosis, mae Cymdeithas Frenhinol Osteoporosis yn croesawu’n gynnes y cynnydd sylweddol a wnaed ledled Cymru o ran gwella atal torasgwrn breuder, gofal osteoporosis ac iechyd esgyrn.

“Mae llawer mwy o bobl bellach yn cael eu nodi ar ôl torasgwrn breuder ac yn cael cynnig triniaeth a chefnogaeth a fydd yn atal toresgyrn sy'n newid bywydau yn y dyfodol ac yn helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth a'u hansawdd bywyd.

“Mae hyn yn dangos beth sy’n bosibl pan fydd cleifion, clinigwyr, byrddau iechyd a phartneriaid yn cydweithio gydag uchelgais a rennir. Mae mwy i'w wneud o hyd i sicrhau bod pawb yn gallu cael diagnosis, triniaeth a chymorth parhaus amserol ar gyfer osteoporosis, ond mae Cymru wedi adeiladu sylfeini cryf i wneud cynnydd pellach.”