Troi dysgu yn weithredu: Cwrs newydd a gyd-gynhyrchwyd i wella bywydau pobl sy'n byw gydag Osteoporosis

Ar ôl cwblhau cyfnod peilot llwyddiannus, mae Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP) Cymru wedi cyflwyno ei Rhaglen Byw'n Dda gydag Osteoporosis er budd pobl sy'n byw gydag osteoporosis ledled Cymru.

Mae'r rhaglen a gyd-gynhyrchwyd, a grëwyd gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru mewn partneriaeth â chleifion, Dr Inder Singh OBE a'r Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi'i chynllunio fel ymyrraeth ataliol a rhaglen addysg hunanreoli gefnogol i wella bywydau'r rhai sydd eisoes yn byw gydag osteoporosis.

Mae'r rhaglen wedi mynd drwy broses beilot tri cham gyda chyfanswm o 41 o gyfranogwyr i fireinio fformat, strwythur a chynnwys y cwrs, ac i ddatblygu llyfr gwaith pwrpasol. Mae’r llyfr gwaith wedi'i ddyrchafu y tu hwnt i daflen ddosbarthu mewn cwrs ac mae’n gweithredu fel canllaw hunanreoli ymarferol sy'n cefnogi cyfranogwyr i atgyfnerthu’r dysgu, ailymweld ag adnoddau, myfyrio ar nodau personol a throi dysgu yn weithredu rhwng sesiynau.

Mae'r cwrs chwe wythnos yn helpu pobl i ddod yn fwy rhagweithiol o ran eu hiechyd eu hunain drwy ddatblygu gwybodaeth, hyder a sgiliau ymarferol i gefnogi iechyd esgyrn, sy’n cynnwys pwysigrwydd maeth da a datrys problemau'n effeithiol.

Mae’r cyfranogwyr yn dysgu technegau fel ymlacio, ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar, ac arferion sganio’r corff i helpu i reoli straen, gwella llesiant a meithrin gwydnwch wrth fyw gyda chyflwr hirdymor.

Mae'r rhaglen hefyd yn annog unigolion i weithio mewn partneriaeth â'u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, gwella hunanreolaeth, a chyflawni canlyniadau iechyd gwell.

Mae'r fformat grŵp yn lleihau teimladau o ynysigrwydd drwy alluogi’r rhai sy’n bresennol i gwrdd ag eraill sydd â phrofiad a rennir, gan greu amgylchedd dysgu cefnogol a chadarnhaol ar gyfer dysgu gan gymheiriaid a thrafodaethau grŵp. Tynnodd adborth o'r peilot sylw at ba mor bwysig yw dull grŵp i'r cwrs, a rhannodd un cyfranogwr: “Drwy fynd ar y cwrs, cwrddais â phobl sy’n profi problemau tebyg. Roedd cael y cyfle i drafod materion yn golygu ein bod ni’n rhoi cymorth emosiynol i’n gilydd.”

Nododd cyfranogwyr a gymerodd ran yn y cynllun peilot eu bod yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth a’u bod yn gallu lleisio emosiynau wrth fagu hyder newydd drwy gynnwys addysgiadol a gyflwynwyd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol uchel eu parch. Dywedodd un cyfranogwr: “Mae’r cwrs hwn wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o sut i reoli fy osteoporosis. Mae wedi rhoi’r offer a’r hyder i mi fod yn rhagweithiol.”

Dywedodd Dr Anthony Gibson, Cyfarwyddwr Meddygol, Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Mae’n wych gweld adborth mor gadarnhaol o gynllun peilot y rhaglen hon. Mae’n enghraifft wych o sut y gallwn ni roi pobl a chleifion yng nghanol menter drwy gydweithio, a hynny er mwyn creu cymorth pwrpasol i wella canlyniadau i bobl sy’n byw gyda chyflyrau cronig fel osteoporosis.”

Mewn gwerthusiad o’r cynllun peilot terfynol, nododd 75% o’r cyfranogwyr gynnydd sylweddol mewn gwybodaeth a dealltwriaeth. Dywedodd 75% hefyd y byddent yn defnyddio'r hyn yr oeddent wedi'i ddysgu i reoli eu cyflwr yn well a rhoddodd 83% sgôr o 10/10 i'r cwrs.

Cysylltodd Dr Inderpal Singh OBE, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Esgyrn, Cymru â Rhaglen Addysg i Gleifion Cymru i archwilio datblygiad y rhaglen hon a chyflwynodd hyfforddiant fel rhan o'i chynllun peilot.

Dywedodd Dr Singh: “Nid digwyddiad ar ei ben ei hun yw torasgwrn breuder; mae'n amlygiad o glefyd cronig sy’n gofyn am reolaeth hirdymor. Addysg yw un o'r offerynnau mwyaf effeithiol sydd gennym i wella canlyniadau iechyd esgyrn. Drwy rymuso cleifion â'r wybodaeth a'r hyder i ddeall eu cyflwr, a’i reoli, gallwn wella llythrennedd iechyd, cynorthwyo pobl i lynu wrth driniaeth yn well, lleihau'r galw y gellir ei osgoi ar y GIG, ac yn y pen draw helpu i atal toresgyrn ac achub bywydau drwy ymyrraeth gynharach a rheolaeth hirdymor gynaliadwy.

“Rydym bellach yn barod i ehangu’r rhaglen hon a’i lledaenu ledled Cymru, a hoffwn ddiolch yn ddiffuant i dîm EPP Cymru am eu hymroddiad, eu partneriaeth a’u cymorth wrth wireddu’r weledigaeth hon.”

“Rydym bellach yn barod i ehangu’r rhaglen hon a’i lledaenu ledled Cymru, ac adeiladu ar bresenoldeb sefydledig EPP Cymru mewn Byrddau Iechyd, i gynorthwyo darpariaeth gyson ar lefel leol. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i dîm cyfan EPP Cymru am eu hymroddiad, eu partneriaeth a’u cefnogaeth wrth wireddu’r weledigaeth hon.”

I gael rhagor o wybodaeth am EPP Cymru a'r Rhaglen Byw'n Dda gydag Osteoporosis, e-bostiwch EPPCymru@wales.nhs.uk.