Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Dementia

Mae'r tîm yn cefnogi mentrau gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda chydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i wneud Cymru yn wlad sy’n deall dementia. Rydym yn gwneud hynny drwy hyrwyddo a datblygu gofal ac ymyriadau sy'n: cynnig gwell mynediad, ymateb amserol, asesu cynnar a diagnosis.

Mae hyn yn cynnwys mentrau sy'n cael eu cyd-gynhyrchu gyda phobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd. Mae'r mentrau hyn yn cefnogi'r person drwy gydol y daith ofal o fyw gyda dementia, gan adeiladu ar bartneriaethau a pherthnasoedd. Ein nod yw darparu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'r ansawdd gorau a hwyluso'r gwaith o ledaenu arferion da ledled Cymru.

Sylw

Cwestiynau parodrwydd safonau ar gyfer ffrwd waith

Cwestiynau i ffrydiau gwaith eu hystyried

Siarter Ysbytai sy'n Deall Dementia Cymru (Ffrwd Waith 4)

Mae Siarter Ysbytai sy'n Deall Dementia Cymru yn cynnig cyfres o ganllawiau y bydd pob ysbyty yng Nghymru yn ymrwymo iddi a bydd yn cael ei lansio yng ngwanwyn 2022.

 Mapio Gofal Dementia - Strategaeth Genedlaethol (PDF, 2.3Mb)

Rhaid defnyddio Mapio Gofal Dementia (DCM) yng Nghymru i ddeall profiad gofal o safbwynt pobl sy'n byw gyda dementia ac i lywio camau gweithredu cadarnhaol i hyrwyddo dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Adnoddau Cyfathrebu Cryno ar Gyfraddau Diagnosis o Ddementia

Gweithgareddau ac adnoddau i gynyddu ymwybyddiaeth am ddementia a chofnodi cyfraddau diagnostig dementia.