Mae endosgopi yn driniaeth lle edrychir ar organau y tu mewn i'ch corff gan ddefnyddio offeryn a elwir yn endosgop. Mae endosgop yn diwb hir, tenau, hyblyg sydd â golau a chamera ar un pen. Mae delweddau o du mewn eich corff yn cael eu dangos ar sgrin. Gellir rhoi endosgopau yn y corff trwy'r geg ac i lawr y gwddf, neu drwy'r gwaelod.
Mae gwasanaethau endosgopi yn chwarae rhan hanfodol wrth ymchwilio i achosion o amheuaeth o ganser a chanlyniadau sgrinio coluddion cadarnhaol, yn ogystal â darparu apwyntiad dilynol i bobl â diagnosis blaenorol a darparu triniaeth ymyriadol. Mae endosgopi yn darparu rôl yr un mor bwysig ar gyfer cyflyrau difrifol nad ydynt yn ganseraidd, fel clefyd llidiol y coluddyn.
Sefydlwyd y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol yn 2018. Mae'n rhan o Raglen Ddiagnosteg Genedlaethol Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru, ac yn gweithio ar y cyd ochr yn ochr â'r Rhaglen Delweddu Genedlaethol, y Rhaglen Patholeg Genedlaethol a Phartneriaeth Genomeg Cymru.
Mae gan y Rhaglen ddwy swyddogaeth graidd:
Diffinnir gwaith y Rhaglen Endosgopi Genedlaethol gan Strategaeth Adfer a Thrawsnewid DiagnostegLlywodraethCymru (2023-2025), a'r Cynllun Gweithredu a Chyflenwi Diagnosteg Cenedlaethol cyfatebol, sydd:
Yn cefnogi datblygiad gwasanaethau endosgopi sy'n canolbwyntio ar y claf o ansawdd uchel, sy'n ddiogel, yn amserol, yn effeithiol ac yn gynaliadwy ar draws GIG Cymru i gefnogi'r ddarpariaeth o arferion gorau a pherfformiad, a gofal i bobl a chenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r Rhaglen yn darparu cefnogaeth gydlynol i fyrddau iechyd, sy’n cynnwys:
Gellir cysylltu â ni drwy e-bost yn National.EndoscopyProgramme@wales.nhs.uk