Neidio i'r prif gynnwy

Academi Patholeg Cymru

Croeso i Academi Patholeg Cymru

Nod Academi Patholeg Cymru yw cryfhau llwybrau hyfforddi, ehangu mynediad at addysg ddigidol, a pharatoi'r gweithlu i fodloni gofynion patholeg yn y dyfodol.

Bydd yr amgylchedd dysgu digidol pwrpasol hwn sy'n benodol i patholeg yn darparu un platfform i cyflwyno  addysg strwythuredig, uwchsgilio, datblygiad proffesiynol parhaus, a chymorth hyfforddiant, i gyd yn canolbwyntio ar anghenion gwasanaethau patholeg yng Nghymru. 

Un ganolfan wedi'i gynllunio i fod o fudd i bob rôl a disgyblaeth ar draws patholeg.

Ar gyfer pwy mae?

Mae'r Academi yn agored i'r holl weithlu patholeg a gwyddoniaeth labordy:

  • Myfyrwyr prifysgol a hyfforddeion
  • Cymorthwyr labordy ac ymarferwyr cysylltiedig 
  • Gwyddonwyr biofeddygol, rheolwyr labordy, ac arweinwyr hyfforddi
  • Gwyddonwyr clinigol, clinigwyr ac ymgynghorwyr
Sut i ddefnyddio

Mae'r Academi yn cael ei chynnal ar Y Ty Dysgu (Amgylchedd Dysgu Digidol AaGIC). Mae mynediad yn rhad ac am ddim i bob aelod o staff yng Nghymru. 

Bydd angen i chi gofrestru am gyfrif ar Y Ty Dysgu i ddechrau arni.