Neidio i'r prif gynnwy

Cydrannau craidd

Cydrannau craidd cymorth iechyd meddwl mynediad agored

Disgrifir naw cydran graidd Model Cymorth Iechyd Meddwl Mynediad Agored Cymru ynghyd ag argymhellion ymarfer cysylltiedig sy'n cael eu llywio gan y model SC2.0 ac ymrwymiad i amrywiaeth, tegwch, cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol.

Wedi'u datblygu a'u cytuno ar lefel genedlaethol, drwy ymgysylltu ac ymgynghori, mae'r cydrannau craidd a'r argymhellion yn creu dealltwriaeth gyffredin ar gyfer Cymru ac yn cefnogi darpariaeth ranbarthol gyda hyblygrwydd lleol. Maent yn sail i'r gofal iechyd meddwl cyson o ansawdd uchel y dylai pobl yng Nghymru ei ddisgwyl.


Cydnabyddiaeth: Hoffem ddiolch i Gofal Mewn Camau (SCS) am y gefnogaeth a roddasant i'r gwaith hwn a chydnabod bod y wybodaeth a ddarperir yn y canllaw hwn yn seiliedig ar ddatblygiad fframwaith SCS ar gyfer systemau gofal iechyd iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau hygyrch ac effeithiol. Beth yw Gofal Mewn Camau 2.0© | Stepped Care Solutions

 

Ffocws: Dylunio a Gwella Systemau
(elfennau craidd 1-5)
 

Ffocws: Profiad Gofal
(elfennau  craidd 6-9)

1

Mae systemau'n cael eu cynllunio ar y cyd â phobl sy'n dod â safbwyntiau a phrofiadau amrywiol

6

  Mae gan bobl fynediad ar yr un diwrnod i sawl lefel o ofal

2

 

Mae systemau'n adlewyrchu amrywiaeth o opsiynau amrywiol ac yn cynnwys gwasanaethau ffurfiol ac anffurfiol.

7

 

  Mae adnoddau a gwasanaethau'n cael eu harwain gan ddull Un ar y Tro

3

Mae hyrwyddo diogelwch wedi'i ddosbarthu ar draws y system

8

  Mae gwasanaethau'n hyblyg, wedi'u llywio gan ddata ac yn gydweithredol

4

 

Cyflawnir gwelliant mewn systemau a gwasanaethau drwy gylchoedd monitro a gwella ansawdd parhaus

9

  Mae gofal yn canolbwyntio ar y person

5

Mae dulliau sy'n canolbwyntio ar adferiad ac sy'n  ystyriol o drawma wedi'u hintegreiddio'n glir ac yn gyson ar bob lefel o'r system ofal