Neidio i'r prif gynnwy

Arloesedd a gydgynhyrchir

Cyflwyniad

Cydgynhyrchwyd Fframwaith NYTH sy’n golygu cymryd syniadau pawb i ystyriaeth, yn enwedig rhai’r bobl ifanc a’r teuluoedd y mae yma i’w gwasanaethu.

Ceir gymaint o wahanol safbwyntiau fel bod yn rhaid gwneud penderfyniadau weithiau am yr hyn sy’n aros a’r hyn sy’n cael ei hepgor, ond mae’r canlyniad yn y pen draw yn well o gyflawni’r daith honno.

Mae Fframwaith NYTH yn gwerthfawrogi hyn ym mhob gwasanaeth sydd â’r nod o helpu gydag iechyd meddwl a grynhoir gan yr ymadrodd 'dim byd amdanoch chi heboch chi'.

Mae’n golygu bod gwasanaethau yn cadw pwyslais ar yr hyn sydd bwysicaf i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, ac yn parhau i wella.

Mae cymorth cymheiriaid, pan fydd pobl yn cael cymorth gan eraill sydd wedi bod trwy bethau tebyg hefyd yn bwysig; yn ogystal â defnyddio technoleg i gadw pethau’n gyfredol ac yn agored i bawb.