Mae babanod, plant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr a’u teuluoedd ehangach angen lleoedd diogel i fyw, i chwarae, i gymdeithasu ac i ymarfer corff ynddynt, ynghyd â mynediad at fwyd iach, chwaraeon, a gweithgareddau celfyddydol a hamdden. Mae gwaith yn rhan bwysig o hyn, ac mae mynediad at swyddi sy’n talu’n dda yn hanfodol i deuluoedd sy’n gweithredu yn dda.
Mae Fframwaith NYTH yn cydnabod bod y pethau hyn yn bwysig iawn i iechyd a llesiant meddwl, a phan nad ydynt ar gael yna mae plant o bob oed a’u teuluoedd yn debygol o gael trafferthion. Mae’r rhain yn broblemau na ellir eu ‘trwsio’ mewn clinigau ac yn aml ni roddir ystyriaeth ddigonol i’w pwysigrwydd pan fyddwn yn meddwl am wella gwasanaethau iechyd meddwl.
Nod Fframwaith NYTH yw symud y cydbwysedd hwn, gan bwysleisio mai’r rhain yw’r pethau PWYSICAF yn aml i’n cadw yn iach ac i gyrraedd ein potensial llawn.