Weithiau, wrth gwrs, mae angen cymorth ychwanegol. Mae hon yn rhan bwysig iawn o Fframwaith NYTH a’i holl ddiben yw sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn ac mewn ffordd sy’n iawn iddyn nhw.
Mae angen i bob gwasanaeth sydd â swyddogaeth yn gysylltiedig ag iechyd a llesiant meddwl ddod at ei gilydd i ddarganfod y ffordd orau o ddiwallu’r angen. Gall y gwasanaethau hyn fod o feysydd iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol neu’r trydydd sector. Mae gan bob un o’r rhain rywbeth i’w gynnig yn dibynnu ar amgylchiadau teulu. Po fwyaf y bydd gwasanaethau yn dod at ei gilydd i wrando ar yr hyn sydd ei angen ar deuluoedd, y mwyaf y gallant addasu sut maent yn gweithio gyda’i gilydd i lenwi’r bylchau.
Gallai gwasanaethau sy’n cynnig cymorth ychwanegol ganolbwyntio ar grwpiau penodol o blant a phobl ifanc, neu ar faterion penodol. Mae dim drws anghywir yn helpu i ddarganfod yr hyn sy’n gweithio mewn ardal a pha wasanaethau newydd sydd eu hangen. Mae hefyd yn atal y rhwystredigaeth fawr o aros ar restr i ddarganfod nad dyna’r gwasanaeth iawn wedi’r cwbl.