O’r crèche, i’r feithrinfa, i’r ysgol, i’r chweched dosbarth ac ymlaen i’r coleg, mae lleoliadau addysg yn rhan fawr o fywydau babanod, plant a phobl ifanc.
Mae’n hanfodol bod ganddynt ddealltwriaeth dda o iechyd a llesiant meddwl ac yn manteisio ar bob cyfle i’w gefnogi ym mhob ffordd y gallant.
Mae Llywodraeth Cymru wir yn deall hyn ac wedi datblygu amrywiaeth o bolisïau a mentrau i wneud iechyd a llesiant meddwl yn ganolog i addysg. Mae’r datblygiadau hyn hefyd yn cydnabod bod hyn mor bwysig i athrawon a staff cymorth ag y mae i rieni a gofalwyr hefyd.
Mae Fframwaith NYTH yn pwysleisio arwyddocâd hyn a phob gwasanaeth yn gweithio gyda’i gilydd i’w gefnogi.