Un o’r newidiadau mwyaf y mae Fframwaith NYTH yn ceisio ei gyflawni yw gwneud cymorth a chyngor arbenigol yn fwy hygyrch. O linellau cymorth, i wybodaeth, i ymweliad rheolaidd gan arbenigwr i ysgol neu wasanaeth ieuenctid, i dimau amlasiantaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol wedi’u hymwreiddio ynddynt, ceir llawer o ffyrdd o gyflawni hyn.
Y peth pwysicaf yw bod yr oedolion ym mywydau pobl yn gwybod ble i fynd i gael cymorth ac yn gallu ei gael yn gyflym os byddant ei angen. Mae hyn yn eu gwneud yn fwy tebygol o deimlo’n hyderus i weithio drwy anawsterau gyda phobl ifanc, yn hytrach na theimlo eu bod mewn dyfroedd rhy ddwfn a’u trosglwyddo ymlaen i rywun arall i gael cymorth.
Rydym yn galw hyn yn ‘dal ymlaen’ yn hytrach nag ‘atgyfeirio ymlaen’ a’r nod yw atal teuluoedd rhag cael eu trosglwyddo o un gwasanaeth i’r llall, ac adrodd eu hanes lawer o weithiau, a byth yn teimlo eu bod nhw yn y lle ‘iawn’.
Wrth gwrs, mae angen arbenigwyr weithiau i gyflawni swyddogaeth fwy, ond bob amser gyda’r nod o gefnogi’r rhai sydd agosaf at blant a phobl ifanc yn gyntaf. Mae hyn yn cydnabod y gall ‘hud bob dydd’ fod yn rymus iawn yn therapiwtig.