Dyma’r rhan bwysicaf o Fframwaith NYTH. Mae’n ymwneud â’r swyddogaeth hanfodol sydd gan oedolion agos o ran helpu babanod, plant a phobl ifanc gyda’u hiechyd a’u llesiant meddwl. Mae cael rhywun yn agos atynt y gallant droi ato pan fyddant yn teimlo’n drist, neu sy’n deall y gallai dicter fod am rywbeth mwy dwys sy’n eu poeni mor bwysig.
Gall oedolion yr ymddiriedir ynddynt helpu babanod, plant a phobl ifanc i ddysgu i reoli eu teimladau trwy wrando a chydymdeimlo, trwy helpu i ddod o hyd i eiriau ar gyfer emosiynau anodd, trwy ddangos ffyrdd o reoli anawsterau, a thrwy helpu i ddatrys problemau.
Mae cyd-reoli, pan fydd emosiynau cryf yn cael eu ffrwyno gan rywun yr ymddiriedir ynddo, yn hanfodol i hunan-reoleiddio ac yn floc adeiladu hanfodol mewn datblygiad seicolegol.
Mae oedolion yr ymddiriedir ynddynt sy’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ddarparu hyn, ochr yn ochr â gallu canolbwyntio ar gryfderau unigolyn, yn eu hannog i beidio â rhoi’r gorau iddi, ac yn dathlu eu llwyddiannau, ni waeth pa mor fach ydynt, yn darparu’r ‘hud bob dydd’ sydd mor bwysig i iechyd a llesiant meddwl cadarnhaol.
Mae pob un ohonom angen profiadau o hyn; ond mae plant o bob oed nad ydynt yn cael digon o brofiad ohono yn eu bywydau am bob math o wahanol resymau, ei angen hyd yn oed yn fwy. Mae oedolion yr ymddiriedir ynddynt yn helpu i atal anawsterau iechyd meddwl ac maent yn helpu i fynd i’r afael â nhw os byddant yn datblygu.