Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Ansawdd a Diogelwch

Mae'r rhaglen Ansawdd a Diogelwch wedi'i sefydlu i fwrw ymlaen â'r camau gweithredu cenedlaethol a nodir yn y Fframwaith Ansawdd a Diogelwch a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021.

Bydd y rhaglen yn creu ac yn cael ei goruchwylio gan Fwrdd Ansawdd a Diogelwch newydd wedi'i hwyluso gan swyddogaeth weithredol y GIG.

Mae nod cyffredinol y Rhaglen yn unol â nodau Cymru Iachach a'r Ddyletswydd Ansawdd - i wella ansawdd gwasanaethau yn GIG Cymru a chanlyniadau i boblogaeth Cymru.

Bydd y Rhaglen yn cefnogi'r nod hwn trwy greu rhaglen waith gydgysylltiedig amlwg, trwy weithio gyda'n partneriaid, i gyflawni'r camau gweithredu o fewn y Fframwaith Ansawdd a Diogelwch, gyda'r nod o symud tuag at GIG sy'n cael ei yrru gan ansawdd.

Bydd y Rhaglen hefyd yn arwain y gwaith o gydgysylltu cam gweithredu'r Ddyletswydd Ansawdd o fewn GIG Cymru.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gysylltu â’r Rhaglen Ansawdd a Diogelwch, e-bostiwch: CIGIGC.Ansawddadiogelwch@wales.nhs.uk