Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant

Hyfforddiant ymgyfarwyddo CPR

Byddem yn argymell fod pawb yn ymgyfarwyddo â chamau CPR a diffibrilio  naill ai drwy hyfforddiant digidol ar-lein, darllen taflen ymwybyddiaeth Achub Bywyd Cymru neu gofrestru i gwrs ar-lein neu gyfarwyddyd wyneb yn wyneb.

Dyma rai dolenni defnyddiol

Hyfforddiant digidol

Mae'r British Heart Foundation (BHF) wedi creu RevivR™ fideo hyfforddi CPR rhyngweithiol ar-lein. Mae'n cymryd 15 munud, o fewn cyfforddusrwydd eich cartref, i ddysgu'r sgiliau sylfaenol. 

Wyneb yn wyneb ac ar-lein

Y Groes Coch Brydeinig  

St John Ambulance Cymru  

Pecyn dysgu CPR i blant a theuluoedd.

Nawr mae adfywio cardio-pwlmonaidd neu CPR yn rhan o Gwricwlwm i Gymru.

Trwy ddefnyddio cân, dawns ac Iaith Arwyddion Prydain mae’r elusen ‘Keep the Beats’ wedi datblygu cân CPR ar gyfer plant ysgol gynradd mewn Cyfnodau Allweddol Un a Dau. 

Wedi'i ddatblygu gyda chymorth athrawon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a'i gyflwyno gan gynllun gwers a llyfr gwaith.

Gall plant ymarfer y gân CPR yn yr ystafell ddosbarth, gartref neu fel gweithgaredd addysgol. 

Nag oes ots sut chi’n dewis dysgu’r gân CPR, mae'n ffordd hawdd a hwyliog o gyflwyno CPR - sgil sy'n achub bywyd.

Gallwch lawrlwytho adnoddau dwyieithog AM DDIM o wefan 'CPR Song.'