Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Achub Bywyd Cymru

Achub Bywyd Cymru – yn helpu Cymru i ddod yn genedl o achubwyr bywyd gyda CPR a diffibrilio

Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yng Nghymru yn dioddef ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty (OHCA).  

Yn 2024 ymatebodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i 6,752 o ddigwyddiadau ataliad y galon y ty allan i’r ysbytu, ac  fe ddechreuwyd dadebru ar 3,062 ohonynt.

Pam mae gweithredu'n gyflym yn bwysig

Pan fydd rhywun yn llewygu o ganlyniad i ataliad y galon, mae pob eiliad yn cyfrif. Mae siawns person o oroesi ataliad y galon yn gostwng 10% am bob munud heb gael CPR a diffibrilio.

Gall ataliad y galon ddigwydd unrhyw le, unrhyw adeg, i unrhyw un – gartref, yn y gwaith, neu allan yn y gymuned. 

Beth i'w wneud 
  • Cydnabod nad yw'r claf yn anadlu neu ddim yn anadlu'n normal 
  • Ffonio 999 
  • Dechrau CPR yn syth
  • Defnyddio diffibriliwr os ar gael
  • Parhau hyd nes y bydd help yn cyrraedd 

Mae gwneud rhywbeth bob amser yn well na gwneud dim byd. 

Gwybodaeth am Achub Bywyd Cymru 

Wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2019, ac nawr yn cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ein cenhadaeth yw:

  • Dysgu pobl beth i'w wneud os bydd ataliad y galon yn digwydd
  • Anog mwy o bobl i roi cynnig ar CPR 
  • Gwella defnydd o ddiffibrilwyr a dealltwriaeth ohonynt
  • Gwneud y siawns o oroesi'n gyfartal ledled Cymru 
Dysgwch CPR heddiw - gyda'n gilydd, gallwn ni achub bywydau.