Mae seren pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, yn annog pobl i ddysgu sgiliau CPR a defib hanfodol wrth iddo gael ei enwi'n llysgennad Achub Bywyd Cymru i gefnogi ei feddyg tîm, a gollodd ei ferch 25 oed i ataliad ar y galon yn 2017.
Mae chwaraewr canol cae Dinas Caerdydd a Chymru wedi'i ysbrydoli gan ei feddyg tîm, Len Nokes, sydd hefyd yn gadeirydd Achub Bywyd Cymru.
Ei fwriad yw cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ataliadau’r galon a nifer y bobl sydd wedi'u hyfforddi i roi CPR a defnyddio diffib.
Mae cyfraddau goroesi ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yn parhau i fod yn isel yng Nghymru ar lai na 5% - sy'n sylweddol is na chyfartaledd y DU o 10%. Bydd dros 6,000 o bobl yn cael ataliad y galon sydyn yng Nghymru bob blwyddyn, gyda thua 80% o’r rheini’n digwydd yn y cartref.
Mae Aaron yn hyrwyddo ymgyrch Achub Bywyd Cymru i wella cyfraddau goroesi ataliad y galon. Mae’n ymuno â llysgennad arall y sefydliad, arwr rygbi Cymru, Shane Williams, a gollodd ffrind agos i ataliad y galon yn ei arddegau, i annog pobl i ddysgu neu adfer eu sgiliau CPR i achub bywydau.
Mae ymchwil diweddar hefyd yn dangos, er bod llai na hanner yr oedolion yng Nghymru yn hyderus wrth roi CPR (45%), mae lefelau’r bobl sy’n gwneud hyfforddiant wedi cynyddu’n ôl i lefelau a welwyd cyn y pandemig.
Fis diwethaf, derbyniodd tîm pêl-droed dynion Cymru, trwy Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac Achub Bywyd Cymru, hyfforddiant ymgyfarwyddo â CPR a diffib. Mae hyn yn rhan o fenter ehangach gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac Achub Bywyd Cymru i gynnig cyrsiau hyfforddi am ddim i holl glybiau, cynghreiriau a chymdeithasau ardal CBDC yng Nghymru – yn ogystal â bwriad i osod diffib y tu allan i bob clwb llawr gwlad yng Nghymru.
Gall ataliad y galon ddigwydd i ddynion a merched o bob oed, mewn unrhyw le, ar unrhyw adeg - waeth beth fo iechyd yr unigolyn. Mae sêr chwaraeon nodedig – gan gynnwys wythwr Rygbi Caerdydd sydd wedi ymddeol, Nick Williams, a’r chwaraewr pêl-droed o Ddenmarc, Christian Eriksen – ymysg y rhai sydd wedi goroesi.
Dywedodd Aaron: “Mae Achub Bywyd Cymru yn gwneud gwaith pwysig i godi ymwybyddiaeth o ataliad y galon yn y gymuned. Mae’n rhywbeth rwy’n angerddol amdano ac rwy’n falch o gael fy enwi’n un o’u llysgenhadon.
"Mae Len, meddyg y tîm, a fi wedi bod yn agos iawn erioed, ers pan oeddwn yn fy arddegau. Rydyn ni i gyd yn un teulu mawr, ac roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth a chefnogi Len.
“Nawr fy mod wedi derbyn hyfforddiant ymgyfarwyddo gyda CBDC, rwy’n teimlo’n hyderus y gallwn ymyrryd pe bawn mewn sefyllfa anodd ac os oes rhywun yn cael ataliad y galon.
“Rwy’n meddwl y gallai llawer o bobl deimlo y gallent anafu’r person neu wneud rhywbeth o’i le, ond dydy hynny ddim yn wir. Hyd yn oed os nad ydych wedi cael unrhyw hyfforddiant, dylech chi ffonio 999 a byddan nhw’n eich arwain trwy bopeth – mae gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim byd.
“Dysgwch CPR. Dim ond 15 munud y mae'n ei gymryd i wybod y sgiliau sylfaenol. Fe allech chi gymryd peth amser i ddysgu eich hun yn ystod hanner amser yn gwylio gêm bêl-droed - dyna pa mor gyflym yw dysgu CPR. Mae'n un o'r gwersi pwysicaf y gallwch chi ei dysgu a gallai olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw.”
Dywedodd Len Nokes, Cyfarwyddwr Meddygol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Chadeirydd Achub Bywyd Cymru: “Mae’n wych cael Aaron i gefnogi Achub Bywyd Cymru a’r hymgyrch “Cofiwch, mae help wrth law”. Mae’n rhywbeth sy’n arbennig o bwysig i mi – ar ôl colli fy merch Claire i ataliad y galon, a hithau ond yn 25 oed.
“Os yw rhywun yn anymwybodol ac nad yw'n anadlu'n normal, mae'n debygol ei fod yn cael ataliad y galon. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod gan bob person y siawns orau o oroesi – felly mae addysgu pobl am sylwi nodweddion ataliad y galon, pwysigrwydd ffonio 999 a dechrau CPR yn hollbwysig.
“Mae angen i ni fagu hyder a dangos i bobl nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain. Ffoniwch 999, bydd y sawl ar ben arall y ffôn yn eich arwain drwy bob cam, yn eich cyfeirio at y diffib agosaf ac anfon ambiwlans i’ch lleoliad. Byddwn hefyd yn annog pobl i gymryd amser i ddysgu CPR – dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd angen i chi roi’r sgiliau hynny ar waith.”