Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli diffyg anadl cronig yn ymarferol

Mae'r rhan fwyaf o bobl â salwch anadlol sylweddol yn profi diffyg anadl bob dydd. Bydd rheoli diffyg anadl yn cael ei ddisgrifio gan ddefnyddio'r model Anadlu, Meddwl, Gweithredu. Mae’n ddull sy'n helpu i wneud synnwyr o ddiffyg anadl parhaus ac yn darparu strwythur wedi'i bersonoli ar gyfer rheoli symptomau. Ar ôl diweddariad ar y dystiolaeth ddiweddaraf am driniaethau cyffuriau a di-gyffuriau ar gyfer diffyg anadl, bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar awgrymiadau rheoli ymarferol i'w defnyddio mewn ymarfer clinigol.

Ynglŷn â'r siaradwr: Mae Dr Anna Spathis yn glinigydd ac ymchwilydd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae ganddi dros ddegawd o brofiad fel ymgynghorydd meddygaeth liniarol y GIG ac o waith clinigol parhaus yn Cambridge Breathlessness Intervention Service. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ymyriadau cymunedol ac addysg broffesiynol i gefnogi rheoli diffyg anadl cronig a symptomau cymhleth eraill sy'n gysylltiedig â chyflyrau hirdymor.

 

Gweminar diffyg anadl pecyn sleidiau 2026

Gweminar diffyd anadl Q&A