Mae gofal pontio yn fwy na dim ond symud o ofal diabetes pediatrig i ofal oedolion, mae’n broses hanfodol sy’n sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu paratoi a’u grymuso ar bob cam.
Mae gofal pontio effeithiol yn mynd y tu hwnt i reolaeth glinigol; mae’n gofyn am ddull cydgysylltiedig sy’n ystyried llesiant emosiynol, sgiliau hunan-reoli, a’r heriau y gall pobl ifanc eu hwynebu wrth iddynt gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hunain, a’i diabetes.
Y nod yw eu harfogi â’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i sefyll ar eu traed eu hunain erbyn iddynt gyrraedd 25 oed, pan fydd datblygiad yr ymennydd wedi’i gwblhau i raddau helaeth, galluoedd gwneud penderfyniadau ar eu hanterth, a’r disgwyliad eu bod yn rheoli eu hiechyd a’u cyfrifoldebau yn annibynnol.
Mae’n hanfodol bod ein gwasanaethau’n adlewyrchu hyn, gan sicrhau eu bod yn hyblyg, yn ymatebol, ac yn addasu i anghenion newidiol pobl ifanc drwy gydol eu taith.
Mae’r dudalen hon yn dod â chanllawiau cenedlaethol allweddol, llwybrau, archwiliadau ac adroddiadau, cyfleoedd dysgu a hyfforddi, rhaglenni addysg, ac adnoddau defnyddiol eraill ynghyd i helpu gweithwyr gofal iechyd i ddarparu gofal pontio o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Rydym yn eich annog i archwilio’r dolenni, gwylio’r fideos, a defnyddio’r offer hyn yn eich ymarfer. Os oes rhywbeth ar goll neu os oes adnodd yr hoffech ei weld yma, rhowch wybod i ni, rydym yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn diwallu eich anghenion.