Mae mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs) yn ffordd effeithiol o gasglu adborth cleifion ar eu canfyddiadau o’u statws iechyd. Gellir defnyddio’r wybodaeth i wella’r broses o wneud penderfyniadau ac i wella gwasanaethau.
Mae mesurau profiadau a adroddir gan gleifion (PREMs) yn offerynnau sy'n cofnodi profiad claf o dderbyn gofal, yn benodol canfyddiad y claf o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod ei gyfarfyddiad gofal a sut y digwyddodd.
Mae PROMs a PREMs wedi’u mabwysiadu ar gyfer cleifion gofal critigol yng Nghymru a disgwylir i bob bwrdd iechyd gasglu’r data hwn mewn clinigau dilynol mewn fformat safonol.
Ar gyfer pawb sy'n mynd i glinig adferiad gofal critigol, rhaid defnyddio'r mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs) canlynol: