Dyma ein gweledigaeth ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes a ddarperir yng Nghymru i bawb sydd ei angen, gan bobl sy'n gweithio'n agos gyda'i gilydd, gartref pan fo'n briodol, yn cael ei benderfynu gan beth sy'n bwysig i'r person ac yn seiliedig ar yr hyn sy'n gweithio.
Rydym am i bobl allu byw eu dyddiau olaf yn y lleoliad o'u dewis – boed hynny yn y cartref, yr ysbyty neu'r hosbis ac rydym am iddyn nhw gael mynediad at ofal o ansawdd uchel ble bynnag maen nhw'n byw ac yn marw, beth bynnag fo'u clefyd neu eu hanabledd sy’n bodoli eisoes.
Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan y themâu canlynol, fel y nodir yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes ac rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i weithredu a chyflawni’r gwaith hwn.