Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd ddeunyddiau dysgu a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Iechyd Menywod, a gyd-gynlluniwyd gyda phobl ifanc a gweithwyr iechyd proffesiynol, i godi ymwybyddiaeth a chefnogi sgyrsiau am fislifau (a elwir hefyd yn iechyd mislif), endometriosis ac iechyd menywod ehangach gyda phobl ifanc 11–16 oed.
Fe'u cynlluniwyd i'w defnyddio gan y canlynol:
- Pobl ifanc
- Ysgolion, nyrsys ysgol a thimau lles/bugeiliol
- Rhieni a Gofalwyr
Mae'r holl ddeunyddiau'n cyfeirio at wybodaeth ddibynadwy gan GIG Cymru.
Diben y deunyddiau dysgu
Rydyn ni eisiau helpu i wneud y canlynol:
- Cefnogi dealltwriaeth o iechyd menywod sy'n briodol i oedran
- Normaleiddio sgyrsiau a lleihau stigma
- Annog pobl ifanc i ddysgu am iechyd menywod ac i geisio cymorth os bydd ei angen
- Cyfeirio at wybodaeth ddibynadwy gan y GIG
Bwriad yr adnoddau hyn yw cefnogi dysgu a chynnal trafodaethau ac nid ydynt yn disodli cyngor meddygol proffesiynol.
Sut i ddefnyddio'r deunyddiau dysgu
Mae'r deunyddiau dysgu ar gael fel posteri, taflenni a chardiau busnes, y gellir eu gweld ar-lein (digidol) neu eu hargraffu i'w defnyddio mewn ysgolion, mannau cymunedol a gartref.
Archwiliwch y deunyddiau dysgu
Dewiswch bwnc isod: