Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Menywod yng Nghymru - Adroddiad Darganfod

Mae menywod a merched yn cyfrif am dros hanner poblogaeth Cymru. Serch hynny, yn aml ni roddir digon o bwys ar iechyd a lles menywod ac ni ddarperir digon o adnoddau ar eu cyfer ac mae angen lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella tegwch gwasanaethau a gwella canlyniadau iechyd i fenywod yng Nghymru.

Ceir anghydraddoldeb o ran canlyniadau iechyd rhwng dynion a menywod a rhwng gwahanol grwpiau o fenywod yng Nghymru. Rhaid i ni weithio i leihau anghydraddoldebau iechyd y mae menywod yn eu hwynebu o ran diagnosio a thrin, clefyd isgemia’r galon, clefyd cardiofasgwlaidd, sgrinio ar gyfer canserau a chyflyrau iechyd pwysig eraill. Mae anghydraddoldebau iechyd mewn grwpiau gwahanol o fenywod, mewn rhannau gwahanol o Gymru yn annheg a gellir eu hatal. 

Gallwn leihau rhai anghydraddoldebau iechyd drwy nodi bylchau yn y gwasanaethau iechyd a ddarperir, ystyried meysydd lle y ceir arferion gorau a datblygu camau gweithredu i fynd i’r afael â’r bylchau hyn, wedi’u teilwra at anghenion pob menyw. 

Mae’n bwysig nodi bod anghydraddoldebau iechyd yn cael eu penderfynu’n gymdeithasol gan set o ffactorau ac amgylchiadau a gall yr amgylchiadau hyn roi pobl o dan anfantais a chyfyngu ar eu siawns o fyw bywydau hirach ac iachach.

Ni all y Cynllun Iechyd Menywod fynd i’r afael â’r ffactorau hyn ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, mae gan wella mynediad at wasanaethau iechyd rôl bwysig i’w chwarae o ran lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Gan gydnabod yr anghydraddoldeb hwn, pennodd y Gweinidog Iechyd y dasg o ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod i Gymru i Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod.

Caiff cynllun o’r fath ei ddatblygu mewn tri cham, sef:

Darganfod (Mehefin – Tachwedd 2022)

Er mwyn deall anghenion menywod drwy ofyn beth sy’n bwysig iddynt. Defnyddio arolygon a grwpiau ffocws er mwyn nodi’r anghydraddoldebau a’r bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir yn ogystal â chyfleoedd i wella iechyd menywod.

Dylunio (2023)

Gweithio mewn partneriaeth drwy’r Rhwydwaith Iechyd Menywod arfaethedig; defnyddio’r adroddiad darganfod hwn, arferion gorau sydd eisoes ar waith yng Nghymru ac adolygu’r sail dystiolaeth i ddatblygu Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd i Gymru. Bydd hyn yn amlinellu camau gweithredu clir ac yn nodi partneriaid i’w datblygu.

Cyflawni (2024-2034)

Rhoi’r cynllun ar waith a’i fonitro drwy’r Rhwydwaith Iechyd Menywod ym mhob rhan o’r GIG ac ymhlith partneriaid. Sicrhau y caiff gwelliannau eu cyflawni mewn ffordd gynaliadwy ym mhob rhan o system y GIG gyda gwaith monitro parhaus a chanlyniadau a fesurir i’w cyflwyno i Weithrediaeth y GIG.

Mae’r adroddiad darganfod hwn yn nodi cyflwr y genedl o ran iechyd menywod yng Nghymru, gan gyfuno adolygiad o’r dystiolaeth sy’n ymwneud ag iechyd menywod â lleisiau menywod a merched yng Nghymru.

Ar ôl ymgynghori â mwy na 3,800 o fenywod, mae’r adroddiad hwn yn ceisio gosod y sylfeini ar gyfer datblygu Cynllun Iechyd Menywod i Gymru.