Neidio i'r prif gynnwy

Beichiogrwydd a genedigaeth

 

Yn ystod eich beichiogrwydd byddwch yn cael eich cynnig nifer o apwyntiadau cynenedigol. Lle byddwch yn gweld bydwraig, neu, weithiau byddech yn gweld obstetregydd (sef meddyg sydd yn arbenigo mewn beichiogrwydd).

Byddant yn gwirio iechyd chi ac eich babi, darpari wybodaeth ddefnyddiol (er enghraifft, ynghylch diet beichiogrwydd iachus neu sgrinio cynenedigol). A hefyd, byddant yn ateb unrhyw gwestiynau efallai y bydd gennych.

Bydd eich apwyntiad gyntaf sef eich 'booking appointment' yn digwydd rhwng tua 8-10 wythnos. Ar ôl hyn, fydd gennych fwy o apwyntiadau gan gynnwys sganiau dyddiad.

Os ydych yn disgwyl eich plentyn cyntaf, byddwch yn cael hyd at 10 apwyntiad cynenedigol. Os ydych wedi cael babi o’r blaen, fe gewch chi rhwng saith apwyntiad. Efallai byddwch yn cael mwy, er enghraifft os ydych yn datblygu cyflwr meddygol. Mae gan GIG 111 Cymru llawer o wybodaeth ddefnyddiol i chi yn ystod ac ar ôl eich beichiogrwydd.

Mae gan fenywod beichiog yr hawl i gael mwy o amser bant o waith ar gyfer apwyntiadau cynenedigol. Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ar sail eich hawliau ar tudalen GOV.UK 'Pregnant employee rights'.

Wrth i chi feddwl am eich lleoliad esgor a’r geni, ystyriwch fod yna llawer o ddewisiadau geni ar gael. Mae’r Birth Place Decisions leaflet yn esbonio'r opsiynau i helpu chi cynllunio.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am unedau mamolaeth a newyddenedigol yn eich bwrdd iechyd trwy glicio ar y dolenni isod.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
 

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr