Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Gweithredu Strôc Cenedlaethol

Rhwydwaith Gweithredu Strôc Cenedlaethol

Cefndir

Fe wnaeth Cymru Iachach ein hymrwymo i ddatblygu cynllun clinigol cenedlaethol, a fyddai’n nodi sut y byddai gwasanaethau arbenigol a gwasanaethau mewn ysbytai yn cael eu darparu, ynghyd â’r sgiliau a’r technolegau oedd eu hangen i’w cefnogi. Wrth i waith ar ei ddatblygiad fynd rhagddo, esblygodd y cynllun i mewn i’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, sy’n cwmpasu’r holl wasanaethau clinigol a ddarperir gan y GIG, boed yn arbenigol neu’n gyffredinol.

Ategir y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol gan gyfres o ddatganiadau ansawdd, sy'n nodi sut yr ydym am weld gwasanaethau clinigol unigol yn datblygu ac yn gwella yn y tymor canolig. Cânt eu hategu gan lwybrau clinigol manwl a manylebau gwasanaeth, a fydd yn llywio darpariaeth y GIG.

Strôc, sef clefyd y gellir ei atal, yw’r pedwerydd prif achos o farwolaeth yng Nghymru, a'r achos unigol mwyaf o anabledd cymhleth.

Ar hyn o bryd, mae bron i 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod 7,400 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn. Mae mwy o bobl yn goroesi strôc; fodd bynnag heb gamau pellach oherwydd newid yn y ddemograffeg, bydd nifer y bobl sy'n cael strôc yn cynyddu bron i hanner, a bydd nifer y goroeswyr strôc sy'n byw ag anabledd yn cynyddu o draean erbyn 2035. Amcangyfrifir bod costau strôc Cymru yn £1biliwn y flwyddyn, gan godi o bosibl i £2.8biliwn erbyn 2035. Mae angen i GIG Cymru a gofal cymdeithasol weithio ar draws sectorau i ddatblygu atebion arloesi sy'n gwneud y defnydd gorau o'r cyfoeth o arbenigedd sydd ar gael.  

Daeth y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) i rym ar 1 Ebrill 2023, a’i nod yw cryfhau’r Ddyletswydd Ansawdd bresennol ar gyrff y GIG a’i hymestyn i weinidogion Cymru o ran eu swyddogaethau gwasanaeth iechyd. 

Yn 2018, gwnaeth yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru sawl argymhelliad. Roedd y rhain yn cynnwys gwella ansawdd gwasanaeth ac integreiddio mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Maent yn ffurfio llinynnau allweddol yn ymateb Llywodraeth Cymru: 'Cymru Iachach: ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol'. Mae gwella ansawdd yn barhaus yn hanfodol i wneud y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn addas ar gyfer y dyfodol a chyflawni gwerth.

Mae ansawdd yn fwy na bodloni safonau gwasanaeth. Mae’n ofal system gyfan, diogel, effeithiol, person-ganolog, amserol, effeithlon a theg. Mae'n digwydd mewn diwylliant dysgu hefyd. 

Mae Gweithrediaeth y GIG wedi ymrwymo i sicrhau dull cenedlaethol o wella gwasanaethau ym mhob rhan o'i bortffolio. Bydd gwasanaethau strôc yn cydweithio drwy’r Rhwydwaith Gweithredu Strôc a’r Rhwydwaith Strategol Cardiofasgwlaidd gan sicrhau bod arloesiadau ac ymyriadau targededig ar gael ar draws y llwybr strôc.