Mae'r Trawsnewid Gwerth yn ymwneud â sicrhau bod pob punt sy’n cael ei gwario yn GIG Cymru yn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer cleifion. Drwy ganolbwyntio ar ofal iechyd seiliedig ar werth, rydym yn edrych ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i bobl, eu hiechyd, eu lles a'u profiadau, ac yn defnyddio hyn i lywio sut mae gofal yn cael ei gynllunio a'i ddarparu.
Ein nod yw gwella canlyniadau cleifion, lleihau anghydraddoldebau iechyd, a defnyddio adnoddau'n fwy effeithiol ledled Cymru. Rydym yn gwneud hyn drwy fesur canlyniadau sy'n bwysig i gleifion, cefnogi rhwydweithiau clinigol i fabwysiadu llwybrau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a rhannu mewnwelediadau i helpu'r GIG i wneud penderfyniadau gwell. Mae Cymru’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel arweinydd mewn gofal iechyd seiliedig ar werth, ac mae Trawsnewid Gwerth yn ganolog i newid y weledigaeth hon yn arfer bob dydd.