Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Digidol

Datrysiadau technoleg iechyd yn creu gwerth, mynediad ac arloesedd ar gyfer GIG Cymru.

Mae Trawsnewid Gwerth yn helpu GIG Cymru i fanteisio ar dechnoleg i wella profiad y claf, cefnogi timau clinigol, a gwella'r ffordd y caiff gofal ei ddarparu. Drwy ganolbwyntio ar safonau technoleg iechyd, proses gaffael fwy doeth, ac offer sy'n hawdd eu defnyddio, mae'r rhaglen yn sicrhau bod buddsoddiadau mewn technoleg yn datblygu’n welliannau go iawn i staff a chleifion.

Mae ein pwrpas yn un syml, sef galluogi datrysiadau technoleg iechyd diogel a chynaliadwy, sy’n gallu tyfu, ac sy'n ychwanegu gwerth ar draws gwasanaethau iechyd a gofal. O ganlyniadau a adroddir gan gleifion i offer brysbennu digidol, rydym yn cysylltu technoleg ag anghenion rheng flaen, gan wneud gofal iechyd yn fwy cydgysylltiedig, yn fwy hygyrch, ac yn fwy effeithiol i bobl ledled Cymru.