Neidio i'r prif gynnwy

Technoleg ac arloesedd

Ehangu arloesedd sy'n ychwanegu gwerth ar gyfer cleifion, clinigwyr a chymunedau.


Mae Trawsnewid Gwerth yn cyflwyno offer digidol a thechnolegau clinigol newydd i ofal bob dydd, gan helpu GIG Cymru i wella canlyniadau, cefnogi staff, a defnyddio adnoddau'n fwy effeithiol. O fonitro o bell i frysbennu o bell, rydym yn profi ac yn ehangu mentrau arloesol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion a chlinigwyr.

Ffocws allweddol yw galluogi gofal i ddigwydd yn nes at y cartref ac, yn y gymuned, lleihau ymweliadau diangen â'r ysbyty a gwneud gwasanaethau'n fwy hygyrch. Drwy wreiddio technoleg mewn llwybrau gofal, rydym yn helpu pobl i reoli eu hiechyd a'u lles lle maent yn byw, gan roi gwell gwybodaeth i glinigwyr er mwyn iddynt weithredu'n gyflym ac yn ddiogel. Mae’r dechnoleg hon yn cynnwys apiau gofal clwyfau, teleofal a gwasanaeth brysbennu dros fideo cyn mynd i’r ysbyty.

Mae ein nod yn syml, sef defnyddio datblygiadau addawol, profi eu gwerth, a'u cyflwyno'n genedlaethol ar raddfa fawr; gan sicrhau nad yw gofal a alluogir gan dechnoleg yn gynllun peilot, ond yn hytrach yn rhan ganolog o ofal iechyd yng Nghymru.