Mae Atal C. diff yn ymgyrch sydd wedi’i hanelu at ein staff. Mae’n rhannu profiadau go iawn cleifion a theuluoedd i'n hatgoffa am bwysigrwydd atal heintiau a stiwardiaeth gwrthficrobaidd, ac i gefnogi ymddygiadau cyson sy'n helpu i gadw cleifion yn ddiogel.
Gall Clostridioides difficile (C. diff) achosi niwed difrifol a chael effaith barhaol ar fywydau pobl. Mae'r camau gweithredu a gymerwn bob dydd yn gwneud gwahaniaeth i gleifion.
Sylwch fod y deunyddiau ymgyrch hyn wedi'u bwriadu ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Mae'r fideos byr hyn yn rhannu profiad bywyd pobl yr effeithir arnynt gan C. diff. Fe'u cynlluniwyd i'w defnyddio mewn cyfarfodydd gyda chydweithwyr GIG Cymru, gan gynnwys cyfarfodydd tîm, hyfforddiant, sesiynau ymsefydlu a sgrymiau.
Ffordd hawdd o rannu fideos cleifion a’u teuluoedd mewn cyfarfodydd gyda chydweithwyr yw lawrlwytho'r sleidiau trwy glicio ar y ddolen 'Sleidiau PowerPoint/PowerPoint slides' isod. Pecyn sleidiau byr yw hwn, gyda dolenni i'r fideos.
Yna mae modd defnyddio posteri, arbedwyr sgrin a llofnodion e-bost i atgyfnerthu'r negeseuon a chadw straeon y cleifion ar flaen meddyliau cydweithwyr ar ôl iddyn wylio'r fideos.
Mae'r holl ddeunyddiau ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg (cliciwch y botwm 'English' yng nghornel dde uchaf y dudalen we hon i gael mynediad at y deunyddiau yn Saesneg)
Darllenwch bostiadau blog gan gleifion sy’n gwirfoddoli a chan gydweithwyr GIG Cymru sy'n myfyrio ar C. diff, ei atal, ac effaith ymarfer bob dydd yn hyn o beth.
Mae'r ymgyrch hon yn bodoli ochr yn ochr â pholisïau a chanllawiau lleol. Dilynwch ofynion IPC a stiwardiaeth gwrthficrobaidd eich sefydliad bob amser: